Covid: 'Diffyg disgyblaeth' yn gyfrifol am gynnydd Merthyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
SiopwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ddydd Mercher y gyfradd o achosion positif yn y sir oedd 155.8 ar gyfer pob 100,000 o bobl

Dywed un pennaeth iechyd mai pobl yn cymysgu mewn aelwydydd estynedig ac achosion yn y gweithle sy'n gyfrifol am y cynnydd sylweddol mewn achosion Covid yn ardal Merthyr.

"Diffyg disgyblaeth" yw'r brif broblem yn ôl Dr Kelechi Nnoaham, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Cafodd 47 o achosion, dros hanner y cyfanswm y sir, eu cofnodi yn ardal Gellideg a chanol tref Merthyr.

Y gyfradd saith diwrnod ar gyfer y sir yw 669.3 am bob 100,000 o bobl o'i gymharu gyda chyfartaledd Cymru o 42.5.

Yn ôl rheolau Covid presennol, dyw pobl ond yn gallu cymysgu dan do gyda phobl o'r un aelwyd.

Dywedodd Dr Nnoaham wrth BBC Cymru: "Rydym wedi adnabod oddeutu pedwar clwstwr sy'n bennaf gyfrifol am y cynnydd mewn achosion.

"Rwyf eisiau gwneud apêl - tra bod yna gynnydd da o ran y rhaglen frechu dim dyna yw'r diwedd ac mae angen parhau i fod yn ofalus".

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion iechyd yn galw ar bobl i gadw at y rheolau presennol

Ychwanegodd ei fod o'r farn mai pobl ifanc oedd yn gyfrifol am ledu'r haint yn ddiweddar.

Galwodd ar bobl i wylio'r gêm y Gamp Lawn rhwng Cymru a Ffrainc yn eu cartrefi ac nid gyda ffrindiau neu deuluoedd eraill.

Y gyfradd ddyddiol ym Merthyr oedd 147.4 ddydd Mawrth gan gynyddu i 155.8 am bob 100,000 o bob ddydd Mercher. Hon yw'r gyfradd uchaf yng Nghymru.

Yr ardal hon welodd y gyfradd fwyaf yn y DU ym mis Rhagfyr gan gyrraedd 1,349 wythnos cyn y Nadolig.