Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Covid, Croesffordd, Camp Lawn?

  • Cyhoeddwyd
Coron DriphlygFfynhonnell y llun, PAUL ELLIS
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl sicrhau'r Goron Driphlyg, a fydd Cymru'r cipio'r Gamp Lawn?

Wythnos cyn i Gymru herio'r Gwyddelod yng ngêm gynta'r ymgyrch yng Nghaerdydd, gofynnwyd i mi lunio erthygl ar gyfer y rhaglen swyddogol.

Dyma'r teitl 'nes i bennu bryd hynny ac eithrio'r gair olaf.

'Cyfle' oedd ar y darn gwreiddiol ac mae'n rhaid i mi gyfaddef er gwaetha'r gobaith sydd ar ddechrau pob ymgyrch doeddwn i ddim yn disgwyl byddai modd newid y gair hwnnw i'r geiriau arbennig sydd i'w gweld bellach.

Wrth gwrs dyw'r gamp ddim yn gyflawn eto ac mi fydd hi'n her aruthrol i Gymru nos Sadwrn yn y Stade de France.

Ond mae Cymru eisoes wedi synnu'r gwybodusion ac mewn tymor sy'n amlwg ddim yn dilyn y sgript, pwy fyddai'n amau Cymru yn y cymal olaf?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Camp Lawn 2005 oedd y cyntaf i Gymru ers dros chwarter canrif

Yn rhywun cafodd ei godi ar rygbi'r 80au a'r 90au roedd 'Camp Lawn' rhywsut yn eiriau oedd bron yn ysbrydol ac yn perthyn i'r oes a fu.

Bu'n rhaid i mi aros chwarter canrif cyn profi'r wefr o'r tîm cenedlaethol yn cyflawni hynny ar brynhawn crasboeth yng Nghaerdydd yn 2005.

Mae clywed nifer felly'n sôn y byddai'r gamp eleni, pe bai'n digwydd, fel yr un mwyaf annisgwyl yn hanes rygbi Cymru yn codi cwestiynau.

Hynny yw, a yw'r ymgyrch eleni yn fwy annisgwyl na 16 mlynedd yn ôl pan enillwyd pob gêm mewn un tymor am y tro cyntaf mewn 27 mlynedd hir a phoenus?

A yw eleni'n fwy annisgwyl na 2008?

Pan oedden ni dan hyfforddiant Warren Gatland, fe gipiwyd y Gamp Lawn fisoedd ar ôl dinistr Nantes wrth i Fiji lorio Cymru yng Nghwpan y Byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi manteisio ar rai penderfyniadau ffodus gan y dyfarnwyr yn y bencampwriaeth eleni

Yr hyn fyddai nifer yn barod i gydnabod yw bod yr ymgyrch eleni ar adegau wedi bod yn ffodus, a chardiau coch a dyfarnu dadleuol wedi rhoi hwb at yr achos.

Ond, mae'n rhaid manteisio pan ddaw'r lwc a dyw'r tîm presennol heb edrych yn ôl.

Nid lwc oedd cadw pwyll ac amynedd yn erbyn Iwerddon a'r Alban, nid lwc oedd eilyddio chwaraewyr ar adegau allweddol, ac nid lwc chwaith oedd sgorio 16 o bwyntiau heb ymateb i guro'r hen elyn o 40 o bwyntiau.

Ffodus efallai, ond nid ar chwarae bach mae ennill pedair gêm yn olynol yn y gystadleuaeth hon, a dyna pam mae diraddio hynny fel sydd eisoes wedi digwydd gan sawl aelod o'r wasg ar draws Glawdd Offa yn annheg ac yn anghyfiawn!

Disgrifiad,

Syr Gareth Edwards yn trafod y tro diwethaf i Gymru gwblhau Camp Lawn ym Mharis

Bydd nifer wrth reswm yn edrych ar berfformiadau Cymru'r llynedd a gofyn sut mae hyn wedi digwydd? Ennill tair yn unig wrth lithro i'r nawfed safle ar restr detholion y Byd.

Ond fel dywed hyfforddwr y blaenwyr Jonathan Humphreys, roedd 'na broses hir dymor, mi oedd 'na bwyslais ar ddatblygu a chreu dyfnder ac yn hynny o beth mae'r gyfundrefn bresennol yn haeddu canmoliaeth.

Roedd y nifer o gapiau newydd yng nghyfres yr Hydref yn y ffigyrau dwbl, roedd hi'n gyfle i nifer fwrw eu swildod ar y lefel rhyngwladol a neb yn fwy na seren y foment Louis Rees-Zammit.

Roedd dilyn ôl-troed Warren Gatland byth yn mynd i fod yn rhwydd, yn debyg i David Moyes yn dilyn Sir Alex Ferguson!

Ond, mae Wayne Pivac wedi aros yn driw i'w athroniaeth ac mae 'na batrwm yn datblygu a'r llafur caled yn talu ar ei ganfed.

Ar ôl aros cyhyd am y Gamp Lawn yn 2005, fel bysus Caerdydd fe ddaeth na dri ar ôl hynny mewn cyfnod a ellir ei ddisgrifio fel trydedd oes aur swyddogol yn hanes rygbi Cymru.

Y gwahaniaeth eleni yw bydd yn rhaid i'r criw presennol ennill y cymal olaf ar dir y gwrthwynebwyr - rhywbeth sydd heb ei gyflawni mewn hanner canrif.

Ond fel pob dim arall, efallai bod 'na rhywbeth yn y sêr eleni, oherwydd y gwrthwynebwyr ar 27 Mawrth 1971 oedd Ffrainc, ac ie'r lleoliad oedd Paris.

Pob lwc bois!