Cyflwyno cynllun adfer £100m y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun £100m i adfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru wedi'r pandemig.
Mae'r cynllun yn nodi effaith Covid-19 ar wasanaethau ac yn ceisio ailadeiladu gwasanaethau er mwyn gostwng amseroedd aros.
Mae mwy nag erioed o bobl yn aros am driniaeth ysbyty wedi i nifer gael eu canslo wrth i weithwyr iechyd frwydro yn erbyn y pandemig.
Dywed prif weithredwr y GIG yng Nghymru bod hwn yn "gyfle i newid er gwell" ond mae'n rhybuddio bod staff wedi blino ac y gallai gymryd pum mlynedd i roi trefn ar restrau aros.
Yn ei sylwadau yn y cynllun adfer dywed Dr Andrew Goodall bod y ffordd y mae Cymru wedi ymateb i'r pandemig wedi bod yn "gwbl wych".
"Mae'r GIG, a phob un o'r partneriaid gofal cymdeithasol, gan gynnwys y trydydd sector a'r rhai annibynnol, wedi dangos gallu i weithredu ar raddfa eang yn gyflym," meddai.
Dywed Dr Goodall bod y pandemig wedi dangos sut y gall technoleg a chydweithio gynnig cyfleon newydd ar gyfer y gwasanaeth iechyd a gofal yn y dyfodol.
Mae'r ddogfen yn amlinellu'r anghydraddoldebau iechyd sydd wedi'u hamlinellu gan y pandemig - yn eu plith yr effaith ar gymunedau BAME a phlant sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd cymdeithasol.
Dywed bod yn rhaid i'r cynllun adfer ganolbwyntio ar iechyd meddwl plant a delio ag anghydraddoldeb hiliol.
Mae'r cynllun yn cynnwys datganiadau am ganser a chyflyrau'r galon - mae llai o alw wedi bod am wasanaethau trin canser yn ystod y pandemig wrth i lai o bobl fynd at feddygon teulu i sôn am symptomau.
Yn ystod y 10 mis hyd at Ragfyr 2020, roedd 30,000 yn llai na'r disgwyl yng Nghymru wedi cael gwybod bod ganddynt o bosib ganser - 18% yn is nag yn ystod yr un cyfnod yn 2019.
Mae meddygon yn poeni bod pobl wedi bod yn gyndyn o fynd at feddyg oherwydd y pandemig.
Mae'r ddogfen yn dweud y bydd mwy yn cael ei wneud i annog y cyhoedd i gael cymorth meddygol ac yn nodi hefyd y bydd mwy yn cael ei wneud i ddelio â heriau tymor hir gwasanaethau canser.
Ond mae elusennau canser wedi bod yn galw am ddatblygu strategaeth ganser lawnach.
Dywed Cynghrair Canser Cymru: "Mae'n bosib mai Cymru fydd yr unig genedl cyn hir heb strategaeth ganser, gyda Llywodraeth Cymru yn dewis cyhoeddi datganiad ansawdd byr yn hytrach na chynllun manwl.
"Mae 20 o elusennau sy'n rhan o'r gynghrair yn dweud nad yw'r datganiad yn mynd yn ddigon pell.
"Mae Cynghrair Canser Cymru yn croesawu'r cynllun ond yn teimlo mai cynllun sy'n delio ag effeithiau tymor byr y pandemig yw e a does yna ddim cynlluniau tymor hir ar gyfer gwasanaethau canser yng Nghymru."
'Niwed cudd'
Mae'r cynllun adfer yn nodi bod angen newid sylfaenol i'r ffordd y mae gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio yn cael eu gweithredu a bod angen gweithio gyda phartneriaid os am ostwng rhestrau aros am driniaethau.
Ymhlith blaenoriaethau eraill y cynllun adfer mae delio â'r "niwed cudd" sydd wedi cael ei achosi gan Covid-19 yn y sector gofal cymdeithasol, cynyddu'r arfer o gydweithio, cydnabod gofalwyr drwy roi iddynt gyflog byw gwirioneddol ac ehangu gwasanaethau diagnostig fel endosgopi.
Dywed Dr Olwen Williams, Is-Lywydd Cymru Coleg Brenhinol y Meddygon, bod cefnogi iechyd meddwl a lles staff y GIG yn bwysig.
"Os oes un wers yr ydym wedi ei dysgu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf 'ma - gwerth staff yw hynny," meddai.
"Maent wedi rhoi eu holl enaid i ofalu am gleifion yn ystod Covid-19 - rhaid i'r cynllun adfer gael cefnogaeth byrddau iechyd.
"Rhaid buddsoddi mwy mewn staff, oriau hyblyg a rhaid neilltuo amser ar gyfer ymchwil ac addysg - mae'r pethau 'ma yn hanfodol."
'Angen mwy o adnoddau'
Wrth gyhoeddi'r cynllun dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, bod "y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, cleifion a staff.
"Wrth i ni gamu allan o gyfnod gwaethaf y pandemig ry'n bellach mewn sefyllfa lle gallwn ddechrau roi trefn ac mae'r cynllun hwn yn cynnwys y prif egwyddorion.
"Bydd yn daith hir ond bydd yn gyfle i ni drawsnewid y ffordd ry'n yn gweithredu gwasanaethau iechyd a gofal yn y dyfodol gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ein cymdeithas wrth iddynt ddod yn fwy amlwg yn ystod y pandemig.
"Rwyf hefyd heddiw yn cyhoeddi ein Fframwaith Clinigol Cenedlaethol sy'n dangos sut ry'n yn rhagweld y bydd gwasanaethau clinigol y GIG yn datblygu yn ystod y ddegawd nesaf."
Wrth siarad yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Llun, ychwanegodd Mr Gething y bydd hi'n cymryd "tymor seneddol cyfan i wella o'r pandemig".
Ychwanegodd ei bod yn bwysig gofalu am staff y GIG yn ystod y cyfnod adfer a'i fod wedi cyfarfod gydag arweinwyr y GIG ac undebau llafur i drafod hynny.
"Dyna pam y bydd hi'n cymryd tymor seneddol cyfan i ddychwelyd i normal.
"Dyw pobl sy'n dweud bod modd dychwelyd i normal - fel roedd hi cyn y pandemig - o fewn blwyddyn neu ddwy ddim yn onest gyda'r cyhoedd ac fe fyddai hynny yn rhoi mwy o bwysau ar staff y GIG."
Dywedodd Mr Gething fod yna "gyfle i ailffurfio ac ailadeiladu" y system gofal iechyd.
Ymateb gwrthbleidiau
Dywed llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns AS, bod cynlluniau Llafur yn y gorffennol wedi "methu â sicrhau y gwelliannau sydd eu hangen ar gyfer pobl a'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru".
"Cyn y pandemig roedd rhestrau aros yn anhygoel o uchel ac wedi dyblu o fewn blwyddyn.
"Bellach mae un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restr aros - sy'n argyfwng iechyd cyhoeddus arall."
"Ry'n yn falch," meddai, "bod Llafur wedi gweithredu ein galwad i gael cynllun adfer ond yn anffodus mae'r cynlluniau ar gyfer delio â chleifion canser yn annigonol. Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn gweithredu cynllun delio â chanser ar fyrder."
Ychwanegodd y byddai'r Ceidwadwyr yn sicrhau bod mwy o feddygon, nyrsys ac arbenigwyr iechyd eraill yn gweithio yn y GIG yng Nghymru.
Dywed llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, bod yn rhaid i ofal iechyd yng Nghymru gael ei drawsnewid yn llwyr ac nad yw sicrhau gwelliant o ganlyniad i'r pandemig yn unig yn ddigon.
"Mae Llafur yn cydnabod bod anghydraddoldebau yn y GIG yng Nghymru ond dydyn nhw ddim yn derbyn cyfrifoldeb am hynny," meddai.
"Byddai Plaid Cymru," medd Rhun ap Iorwerth, "yn recriwtio 1,000 o feddygon a 5,000 o nyrsys ac yn sicrhau y byddai gweithwyr gofal yn "cael yr un termau, amodau â gweithwyr iechyd.
"Byddai ein cynllun canser yn sicrhau diagnosis a thriniaeth yn gynt, byddem yn cefnogi lles ac iechyd meddwl pobl ifanc drwy gael rhwydwaith o ganolfannau i bobl ifanc.
"Byddem yn blaenoriaethu mesurau a fyddai'n atal salwch. Allwn ni ddim dychwelyd i fel roeddan ni o'r blaen. Rhaid i'n gwasanaeth GIG ni gael ei ailadeiladu i fod yn gryfach nag erioed."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd4 Mai 2020