Arestio 12 a thri yn yr ysbyty wedi aflonyddwch difrifol

  • Cyhoeddwyd
Wentloog Avenue
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffordd ar gau wrth i'r heddlu barhau i gynnal ymholiadau

Mae 12 o ddynion wedi cael eu harestio yn dilyn "aflonyddwch difrifol" a arweiniodd at gau ffordd brysur ar gyrion Caerdydd.

Bu'n rhaid i Heddlu De Cymru ddefnyddio pwerau arbennig i stopio a chwilio pobl ar Wentloog Avenue, Tredelerch, sy'n cynnwys safle teithwyr Shirenewton, er mwyn "atal trais pellach".

Cafodd y dynion eu harestio ar amheuaeth o gythrwfl treisgar, ymosod a chael arfau yn eu meddiant.

Mae tri dyn yn cael triniaeth ysbyty, gan gynnwys dyn 27 oed sydd ag anafiadau all newid ei fywyd.

Mae'r ddau ddyn arall, sy'n 25 a 55 oed, ag anafiadau difrifol.

Dywed y llu bod nifer o arfau wedi eu canfod ac mae swyddogion fforensig yn cynnal archwiliad yn yr ardal.

Y gred yw bod pawb oedd yn rhan o'r digwyddiad yn nabod ei gilydd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddlu De Cymru dylid ceisio osgoi'r ardal tra bod ymchwiliadau'n parhau

Cafodd yr heddlu eu galw yn dilyn adroddiadau o ymosodiad ddydd Sul am 16:00.

Mae hysbysiad Adran 60 - sy'n rhoi'r pŵer i swyddogion chwilio unrhyw un mewn ardal benodol - yn parhau mewn grym tan 17:00 brynhawn Llun.

"Cafodd yr hysbysiad ei weithredu yn dilyn aflonyddwch difrifol," meddai'r heddlu, sy'n apelio am wybodaeth.

"Bydd yn parhau mewn lle tra bod ymholiadau'n mynd ymlaen gyda'r bwriad o atal trais pellach."

Mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng Casnewydd a Chaerdydd ac mae pobl yn cael eu cynghori i osgoi'r ardal.

Pynciau cysylltiedig