Covid-19: Angen ymchwiliad Cymreig i osgoi 'uffern' i eraill
- Cyhoeddwyd
Mae angen ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru i effaith y pandemig er mwyn atal eraill rhag mynd drwy'r "uffern" brofodd dyn o Bontypridd.
Bu farw rhieni James Heaton o fewn wythnosau i'w gilydd llynedd, ac mae'n galw am ddysgu gwersi o'r sefyllfa.
Dylai penderfyniadau Llywodraeth Cymru gael eu hystyried fel rhan o ymchwiliad ledled y DU, meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford.
Ond mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru'n dweud y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad Cymreig os ydyn nhw mewn grym ar ôl yr etholiad.
Byddai ymchwiliad Cymreig yn "ddefnyddiol" yn ogystal ag ymchwiliad ledled y DU, meddai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helena Herklots.
Ond roedd "dewisiadau Cymru" yn ddibynnol ar bolisi Prydeinig a dylid "ystyried yn ei gyfanrwydd", meddai cymdeithas feddygol y BMA.
Roedd rhieni James Heaton, Frank ac Ann, yn gwpl "hapus iawn", ac roedd yn beth prin i weld "un heb y llall".
Fe wnaeth Frank, 74, ddatblygu niwmonia ym mis Medi, ac fe gafodd ei "berswadio" gan feddyg i fynd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, meddai ei fab.
Fe wellodd ei gyflwr ddigon i feddygon ystyried ei anfon adref, ond cyn i hynny fod yn bosib fe waethygodd ei iechyd yn sylweddol.
11 diwrnod ar ôl mynd i'r ysbyty, bu farw Frank Heaton, a phrif achos ei farwolaeth oedd Covid-19.
Heintio mewn ysbytai
Mae James yn credu bod ei dad wedi dal y feirws yn yr ysbyty, ac mae heintio o fewn ysbytai yn un peth sydd angen ystyriaeth ymchwiliad cyhoeddus, meddai.
Er bod cyfradd achosion Cymru "mor isel", meddai James, aeth yn "uchel iawn yn sydyn iawn" yn yr ysbyty penodol hwnnw.
"Pam bod rhai ardaloedd penodol wedi profi cyfraddau achosion mor uchel ar gyfnod pan oedd y gyfradd yn gyffredinol mor isel?
"Oedd 'na dyb bod y sefyllfa dan reolaeth gyda'r cyfraddau isel ddiwedd yr haf a bod y peth yn dod i ben?
"Be' allai fod wedi ei wneud i atal hyn?"
Ychydig dros wythnos ar ôl marwolaeth Frank Heaton, dywedodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg bod dros 20 o bobl wedi marw gyda Covid-19 yn dilyn clwstwr o achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Dywedodd y cyfarwyddwr nyrsio, bydwreigiaeth a gofal cleifion y bwrdd, Greg Dix bod "diogelwch cleifion a staff yn flaenoriaeth" a bod timau wedi "gweithio'n eithriadol o galed i leihau lledaeniad Covid-19 yn ein hysbytai".
Ychwanegodd bod "natur y feirws wedi gwneud hyn yn heriol iawn" ac "yn anffodus mae rhai cleifion wedi cael profion positif am Covid-19 yn ein hysbytai".
Yn sgil y clwstwr o achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae'r bwrdd iechyd wedi cael "gwell dealltwriaeth o'r feirws ac wedi cryfhau mesurau atal heintio," meddai Mr Dix.
"Rydyn ni'n ymddiheuro i unrhyw un sy'n teimlo bod y bwrdd iechyd wedi methu a bydden ni'n eu hannog i gysylltu gyda ni er mwyn trafod eu pryderon a'u cwestiynau."
Bu farw mam James, Ann, oedd yn 75, fis yn ddiweddarach.
Nid coronafeirws oedd achos ei marwolaeth, ond fe wnaeth hi ddal yr haint yn gynharach yn y flwyddyn yn dilyn achosion yn ei chartref gofal.
Dywedodd James fod hynny wedi ei "gwanhau'n ofnadwy".
"Dwi'n amau na rhyddhau cleifion heb eu profi i gartrefi gofal oedd yr achos," meddai.
Ychwanegodd: "Er nad yw'n dweud Covid ar ei thystysgrif marwolaeth does gen i ddim amheuaeth ei fod wedi byrhau ei bywyd."
'Uffern y pum mis diwetha'
Cafodd dros 1,700 o bobl eu trosglwyddo o ysbytai i gartrefi gofal ym mis Mawrth, Ebrill a Mai'r llynedd, gan gynnwys dros 50 oedd wedi cael prawf positif am Covid-19 o fewn 15 diwrnod cyn eu trosglwyddo.
Dywedodd Mr Drakeford ym mis Tachwedd bod angen dadansoddiad pellach cyn dod i ganlyniad am effaith y trosglwyddiadau.
Mae profiadau ei rieni yn brawf bod angen ymchwiliad Cymreig, meddai James, ac "yn ddelfrydol eleni".
"Mae angen i ni ddysgu o'r hyn aeth o'i le i atal eraill rhag mynd drwy'r uffern dwi wedi ei brofi dros y pum mis diwetha'," meddai.
Mae'n dweud bod dau reswm dros gynnal ymchwiliad i Gymru'n unig: "Dwi'n meddwl y bydde profiad Cymru yn rhan fach iawn o ymchwiliad dros y DU.
"A gan fod iechyd wedi ei ddatganoli a'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn gorff ar wahân sy'n adrodd i'r Senedd yna mae angen i ni edrych ar beth gafodd ei wneud yn wahanol yma, a beth allai fod wedi ei wneud yn wahanol yma."
Byddai ymchwiliad Cymreig yn "ddefnyddiol" yn ogystal ag ymchwiliad ledled y DU, meddai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Helena Herklots.
Er bod llawer o benderfyniadau wnaeth effeithio Cymru wedi eu gwneud ar lefel Brydeinig, dywedodd bod y rheiny wedi eu gwneud mewn "cyd-destun datganoledig", ac fe allai ymchwiliad Cymreig "ystyried materion penodol mewn mwy o fanylder".
Mae grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice wedi dweud y byddai'n "gywir" cael ymchwiliad ar wahân i Gymru.
Dywedodd llefarydd o'r grŵp y byddai ymchwiliadau o bob rhan o'r DU yn cynnig "golwg benodol ar y ffaeleddau wnaeth ein harwain yma".
'Wedi eu cysylltu yn eu hanfod'
Ond ymchwiliad ledled y DU ydy'r ffordd orau meddai'r BMA, sy'n dweud bod "problemau gyda PPE, cyflenwad brechlynnau a phrofi wedi digwydd ar lefel y DU rhan fwyaf, ac mae cyngor SAGE a'r cyd-bwyllgor brechu wedi bod i'r pedair gwlad".
Ychwanegodd cadeirydd Cymru i'r BMA, Dr David Bailey, bod "dewisiadau Cymru wedi bod yn ddibynnol ar bolisi Prydeinig", ac felly mae'r rhan fwyaf "wedi eu cysylltu yn eu hanfod a dylid eu hystyried yn eu cyfanrwydd".
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn glir bod angen ymchwiliad, ond gan fod "gymaint o'r hyn sydd wedi digwydd yng Nghymru wedi ei gysylltu gyda'r darlun dros y DU", yna y byddai "dim llawer o bwynt cynnal ymchwiliad fyddai'n methu ag ystyried llawer o'r materion traws-ffiniol yma".
Bydd mwy ar y stori hon ar Wales Live am 22:35 nos Fawrth ar BBC One Wales.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2020