Covid-19: Cymru'n cofio blwyddyn ers y clo cyntaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Castell GwrychFfynhonnell y llun, Aaran Lennox
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd adeiladau dros Gymru, fel Castell Gwrych, yn cael eu goleuo'n felyn i gofio'r rhai sydd wedi marw

Bydd pobl ledled Cymru yn dod ynghyd i gofio'r rheiny a gollwyd yn y pandemig ddydd Mawrth - flwyddyn union ers i'r DU fynd i gyfnod clo am y tro cyntaf.

Bydd munud o dawelwch am 12:00 a gwasanaeth coffa yng Nghaerdydd fel rhan o'r diwrnod.

Mae dros 125,000 o bobl yn y DU wedi marw â Covid-19 - dros 7,000 o'r rheiny yng Nghymru yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Ychwanegodd y corff fod Cymru wedi gweld 4% yn fwy o farwolaethau yn 2020 na'r hyn y byddai'n ei ddisgwyl mewn blwyddyn arferol.

Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i oleuo eu stepen drws ac arddangos calonnau melyn wrth gofio'r rhai a gollwyd.

Bydd dros 60 o adeiladau, hen a newydd, ledled Cymru hefyd yn cael eu goleuo yn felyn, gan gynnwys y Senedd a chestyll Caerffili, Conwy a Chaernarfon.

Disgrifiad,

Collodd Lydia, Esther a Rachel eu tad, John, ychydig cyn y Nadolig

Ychydig cyn y Nadolig fe gollodd Lydia Lambert ei thad, John, i Covid-19, a bydd ei theulu hi ymhlith y rheiny fydd yn cofio pan fydd yr adeiladau'n cael eu goleuo ddydd Mawrth.

"Fi'n teimlo'n hollol ar goll ers colli Dad, a dyw hynny ddim wedi dod yn haws o gwbl," meddai.

"Dwi'n gweld isie fe cymaint am fy mod i wrth fy modd yn ei gwmni fe.

"Dwi dal heb brosesu'r drychineb, a methu credu bod e ddim yn dod 'nôl."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi methu credu bod e ddim yn dod 'nôl," meddai merch John, Lydia

Doedd chwaer Lydia, Esther, methu dychwelyd ar gyfer angladd ei thad oherwydd ei bod hi'n byw yn yr Unol Daleithiau.

Ond bydd gweld y goleuo yn digwydd o bell, meddai, yn ffordd o deimlo'n rhan o'r cofio.

"Rydyn ni'n falch i fod yn rhan o grŵp [Teuluoedd Covid-19 Cymru], ac i wybod fod dau le sy'n bwysig iawn i ni, Pier Penarth a Chastell Sant Dunwyd yn Llanilltud Fawr, yn mynd i gael eu goleuo," meddai Esther.

"Mewn un ffordd mae'r boen yn bersonol iawn, ond mewn ffordd arall, 'dyn ni'n rhannu'r boen a'r drasiedi enfawr yma gyda Chymru a gyda'r byd."

Ffynhonnell y llun, Andrea Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond ers dwy flynedd oedd Andrea a Mark Williams wedi bod yn briod pan fu farw Mark ar ddechrau'r pandemig

Grŵp Teuluoedd Covid-19 Cymru - sy'n cefnogi tua 1,300 o bobl sydd wedi colli anwyliaid - sy'n gofyn am y weithred er mwyn cofio'r rheiny sydd wedi colli eu bywydau i'r feirws.

"Rydyn ni'n cynnig cwnsela, ond hefyd yn gallu cefnogi pobl trwy ddweud 'ry'n ni'n gwybod sut ydych chi'n teimlo'," meddai Andrea Williams - un o sefydlwyr y grŵp.

"Os ydy rhywun yn dweud 'dydw i methu cysgu' mae 'na wastad rhywun arall sy'n ymateb yn dweud eu bod nhw'n mynd trwy'r un peth.

"Mae eraill yn dweud eu bod yn teimlo'n euog - 'dylen i ddim fod wedi eu gyrru nhw i'r ysbyty' - a dyma'r math o gwestiynau sydd ym meddyliau rhai o'r aelodau."

Ffynhonnell y llun, Andrea Williams
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Williams, oedd yn ffit ac yn iach yn ôl ei wraig, gyda Covid-19 ym mis Ebrill 2020

Fe wnaeth Mrs Williams, o Fro Morgannwg, helpu i sefydlu'r grŵp ar ôl colli ei gŵr, Mark, ar ddechrau'r pandemig ag yntau'n 58 oed.

"Mae'r grŵp wedi fy helpu i - gwybod fod pobl eraill yn teimlo yr un ffordd," meddai.

"Rydyn ni oll yn cymryd pethau ar ein cyflymder ein hunain, ond fe allwn ni oll oleuo Cymru i gofio amdanynt."

Yr ardal â'r nifer fwyaf o farwolaethau

Rhondda Cynon Taf ydy'r ardal sydd wedi'i tharo waethaf yng Nghymru, gyda 339.8 o farwolaethau ar gyfer pob 100,000 o bobl.

Ar gyfer Cymru yn ei chyfanrwydd, 196.4 ydy'r gyfradd.

Mae ardal Tonyrefail yn enwedig wedi dioddef - yr ardal yma sydd wedi gweld y nifer uchaf o farwolaethau trwy Gymru gyfan.

Ond mae gofid wedi dod â'r gymuned ynghyd, yn ôl y trigolion.

Ffynhonnell y llun, Huw Parkman
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Huw Parkman roedd yn rhaid iddo drefnu tua 20 o angladdau yr wythnos yn ystod y cyfnod gwaethaf

Pan darodd y pandemig bu'n rhaid i'r ganolfan gymunedol gau, ac mae Dawn Parkin yn dweud bod ei garej hi wedi gweithredu fel y banc bwyd lleol, cyn i bobl ddechrau rhoi dillad, pramiau a llawer o eitemau eraill i'w rhoi i bobl mewn angen.

"Maen nhw oll wedi dod ynghyd - mae fel bod yn y fyddin yma," meddai. "Mae hi wir wedi bod felly."

Fe wnaeth trigolion hefyd feddwl am syniadau i gadw ysbryd trigolion yn uchel - fel cystadlaethau coginio.

'Anwyliaid yn cael eu gadael mas'

Yn ôl cyfarwyddwr angladdau lleol, Huw Parkman, yn ystod y cyfnod gwaethaf roedd yn rhaid iddo drefnu tua 20 o angladdau yr wythnos.

"Fe fyddai rhai o'r angladdau wedi cael cannoedd ar gannoedd o bobl yna," meddai.

"Rwy'n credu mai marwolaethau pobl yn eu 40au a 50au oedd y rhai anoddaf - dim ond y teulu agos oedd yn gallu mynychu, oedd yn golygu bod rhai anwyliaid yn cael eu gadael mas."

Ffynhonnell y llun, James Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae James Thomas wedi helpu i godi £16,000 tuag at achosion da ers dechrau'r pandemig

Doedd fan arlwyo James Thomas - Beefy's Baps - ddim yn gymwys ar gyfer unrhyw grantiau gan y llywodraeth am ei fod yn fusnes gymharol newydd, felly fe roddodd ei sylw tuag at helpu pobl trwy ddosbarthu prydau bwyd i'r rheiny mewn angen.

"Fe ddechreuodd fel rhywbeth bach ond tyfodd yn sydyn ac yn fuan roedden ni'n gwneud pob ardal o amgylch Tonyrefail a Gilfach Goch," meddai.

"Rydyn ni wedi dosbarthu tua 3,600 o brydau am ddim, gan gynnwys i gartrefi gofal lleol."

Helpodd ei waith i godi £16,000 mewn rhoddion, wnaeth ariannu anrhegion i blant dros y Nadolig, £3,000 i elusennau digartrefedd ac wyau Pasg i blant yn fwy diweddar.

"Mae hi wedi bod yn gyfnod drwg mewn nifer o ffyrdd - yn enwedig y marwolaethau - ond mae'r ffordd mae pobl wedi dod ynghyd wedi bod yn un positif," meddai Mr Thomas.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ar hyn o bryd y gyfradd achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl ydy 42 - y lefel isaf ers canol Medi 2020

Ar ben arall y tabl marwolaethau mae 'na ddwy gymuned yng ngogledd Cymru - De Cyffordd Llandudno a Llansanffraid Glan Conwy, a De Orllewin Y Rhyl - sydd ddim wedi cofnodi unrhyw farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19.

Yn ôl Sylvia Hughes, sy'n berchen ar gaffi a thafarn yng Nglan Conwy, y ffaith fod pobl leol wedi dilyn y rheolau ac elfen fawr o lwc sy'n gyfrifol am hynny.

"Rydyn ni wedi bod yn un o'r ardaloedd lwcus," meddai.

"Mae'n rhannol oherwydd bod pobl y pentref wedi cadw at y rheolau - rydyn ni wedi cael ambell i achos ond dim byd mawr."

Er hynny, dywedodd Ms Hughes bod y cyfyngiadau yn "hunllef" i fusnesau, a'i bod yn gobeithio am "normalrwydd" yn fuan.

Beth yw'r sefyllfa flwyddyn yn ddiweddarach?

Pythefnos yn ôl fe wnaeth Cymru basio'r trothwy i ddod allan o gyfnod clo oherwydd bod cyfradd yr achosion wedi gostwng yn sylweddol a bod cyfran isel o bobl yn cael prawf positif am y feirws.

Ar hyn o bryd y gyfradd achosion ar gyfer pob 100,000 o bobl dros saith diwrnod ydy 42 - sef y lefel isaf ers canol Medi 2020.

Merthyr Tudful (111.1) ac Ynys Môn (107.1) sydd â'r cyfraddau uchaf, a Cheredigion (11), Powys (15.1) a Sir Fynwy (13.7) sydd â'r cyfraddau isaf.

Mae dros 1,250,000 o bobl wedi derbyn eu brechiad cyntaf - 50% o oedolion Cymru - a dros 340,000 wedi cael y dos llawn.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf gan y Gwasanaeth Iechyd, 821 o gleifion Covid-19 sydd mewn ysbytai ledled Cymru ac mae'r nifer sydd angen triniaeth ysbyty oherwydd y feirws ar ei lefel isaf ers canol Hydref.

Pynciau cysylltiedig