Covid-19: Hanner oedolion Cymru wedi cael brechiad
- Cyhoeddwyd
Mae dros 50% o oedolion Cymru wedi derbyn eu brechlyn Covid-19 cyntaf, yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru.
Bedwar mis ers dechrau'r cynllun brechu mae dros 350,000 hefyd wedi derbyn y cwrs llawn o ddau frechiad rhag yr haint.
Derbyniodd 14,417 yn rhagor o bobl eu pigiad cyntaf ddydd Sul, tra bod 7,099 o bobl wedi cael eu hail ddos.
Mae mwy na 1,273,000 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf - dros 50% o oedolion Cymru - ac mae 346,058 o'r rheiny wedi cael y cwrs llawn.
Dywedodd Vaughan Gething AS fod hyn yn garreg filltir "nodedig".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ond rhybuddiodd Mr Gething hefyd fod y pandemig yn golygu ei bod hi'n "anochel" bod rhestrau aros am driniaeth yn yr ysbyty yn hirach.
Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod 540,000 o bobl yng Nghymru yn aros am driniaeth, gyda 60% o'r rhestr yn apwyntiadau newydd i gleifion allanol.
Daw'r newyddion am y garreg filltir brechu wrth i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi na chafodd yr un farwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 ei chofnodi yn y 24 awr ddiwethaf.
Cafodd 150 o achosion newydd o'r haint eu cofnodi.
Daw hyn â nifer yr achosion yng Nghymru i 207,992, a'r marwolaethau i 5,488, yn ôl y system yma o gofnodi.
Mae'r gyfradd ar draws Cymru dros saith diwrnod bellach yn 42 ym mhob 100,000 person.
Gwedd-newid apwyntiadau
Wrth siarad yn ystod cynhadledd i'r wasg y llywodraeth ddydd Llun, dywedodd Mr Gething: "Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal wedi bod wrth wraidd ein hymateb i'r pandemig.
"Dyna pam rwyf wedi cyhoeddi tâl bonws arbennig i dros 220,000 o staff iechyd a gofal.
"Maen nhw wedi gweithio yn gwbl ddiflino," ychwanegodd.
Ond mae'n dweud bod y flwyddyn ddiwethaf wedi cael effaith andwyol ar y GIG yng Nghymru a bod nifer o apwyntiadau wedi gorfod cael eu gohirio.
"Mae dros 200,000 o bobl wedi cael prawf positif o'r haint ac mae dros 30,000 wedi gorfod cael triniaeth ysbyty oherwydd yr haint ac felly mae'n rhestrau aros yn cynyddu," ychwanegodd.
Yn ystod y gynhadledd i'r wasg fe amlinellodd Mr Gething gynllun i wario £100m ar wasanaethau er mwyn ceisio gostwng amseroedd aros.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd mai'r bwriad yw mabwysiadu dulliau newydd o weithredu gan gynnwys anfon pobl yn syth am brofion cyn gweld ymgynghorydd.
"Ry'n ni hefyd am wneud mwy o ddefnydd o apwyntiadau rhithiol - cyn y pandemig roedd canran yr apwyntiadau rhithiol yn 8% ond bellach maen nhw'n 34%."
Y bwriad, meddai'r gweinidog, ydy creu canolfan, ar gost o £1.26m, fydd yn datblygu a hyrwyddo'r defnydd o dechnoleg newydd mewn gofal iechyd a chymdeithasol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021