16,000 o ieir wedi'u lladd mewn tân ar fferm ym Mhowys
- Cyhoeddwyd
Mae 16,000 o ieir wedi cael eu lladd yn dilyn tân ar fferm yng ngogledd Powys.
Cafodd diffoddwyr eu galw i'r digwyddiad ar y safle ger Llanfair Caereinion am 23:26 nos Iau.
Anfonwyd chwe cherbyd diffodd tân, cerbyd ymateb gwledig a thanc dŵr i'r digwyddiad, ond erbyn i swyddogion gyrraedd roedd y sied eisoes ar dân.
Roedd y cyfan ar ben erbyn 03:30 fore Gwener, a bydd ymchwiliad yn dechrau unwaith i'r gweddillion ddechrau oeri.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod ail sied ar y fferm oedd hefyd yn cynnwys 16,000 o ieir.