Gwagio ysgol a galw'r heddlu wedi 'neges faleisus'

  • Cyhoeddwyd
Mynedfa Ysgol Gyfun RadurFfynhonnell y llun, Google

Bu'n rhaid danfon holl ddisgyblion ysgol uwchradd yng Nghaerdydd fore Gwener "fel cam rhagofal" wedi i rywrai ddanfon "neges faleisus".

Cafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu danfon i Ysgol Gyfun Radur mewn ymateb i'r neges.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw wrthrychau oedd yn destun pryder, ni chafodd unrhyw un anaf ac mae ymholiadau'n parhau."

Ychwanegodd bod y digwyddiad bellach ar ben.

Roedd Cyngor Caerdydd eisoes wedi datgan bod y digwyddiad yn ymwneud â neges faleisus i'r ysgol, a bod yr ysgol wedi gweithredu'n "sydyn ac effeithlon" wrth anfon plant adref.

Danfonodd pennaeth yr ysgol neges at rieni a gofalwyr yn rhoi gwybod iddyn nhw eu bod "wedi gorfod danfon yr holl blant adref heddiw" gan addo rhagor o fanylion "yn ddiweddarach yn y dydd".

Cafodd bysus eu trefnu i gludo disgyblion sy'n cael cludiant ysgol, ac fe wnaeth plant sy'n cerdded i'r ysgol adael y safle yn gynharach yn y bore.

Cafodd rieni gais i osgoi e-bostio'r ysgol oni bai bod eu plant methu â mynd adref i'w cartrefi.

Pynciau cysylltiedig