Rhwystredigaeth am system docynnau Cwpan Rygbi'r Byd
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o gefnogwyr Cymru wedi mynegi rhwystredigaeth am system docynnau Cwpan Rygbi'r Byd 2023 yn Ffrainc.
Mae rhai tocynnau wedi cael eu rhyddhau'n barod ar gyfer y gystadleuaeth, ond mae nifer yn anhapus gyda'r system.
Yn ôl rhai cefnogwyr roedd y wefan yn rhewi'n gyson ac yn eu taflu 'nôl i gefn y ciw, ac mae 'na bryder hefyd bod nifer o'r tocynnau yn cael eu gwerthu ymlaen am brisiau uwch.
Yn ôl y trefnwyr y gystadleuaeth maen nhw'n hyderus bod y system yn gweithio.
'Pedair awr heb ddim byd'
Mae Caeo Harri Hughes wedi bod yn dilyn Cymru ers yn fachgen ifanc, a byddai dilyn y tîm o amgylch Ffrainc yn uchafbwynt y flwyddyn iddo.
Nawr oherwydd y holl broblemau technegol sydd wedi bod, nid yw'n siŵr a fydd hynny'n bosib.
"Nes i seinio fyny ar gyfer yr holl beth tua thri neu bedwar diwrnod cyn i'r tocynnau fynd ar werth," meddai.
"Ro'n i'n meddwl bysa 'na docyn wedi archebu i ni mewn ffordd.
"Ond wedyn, dod i'r lot cyntaf a chiwio am ddwy awr - dim byd o fanna.
"Wedyn yr ail lot yn dod allan, ciwio am awr yn y lle cynta', yna cael ein cicio 'nôl i gefn y ciw unwaith eto am dair awr. Felly pedair awr heb ddim byd."
System 'ofnadwy'
Yr un oedd profiad Greg Caine. Ar un adeg roedd yn ddigon lwcus i allu rhoi'r tocynnau yn ei fasged, cyn i'r system ei gicio yn ôl i gefn y ciw.
"Mae'r system yn sbwriel. O'dd e'n ofnadwy. Doedd e ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl," meddai.
"Roedd y wefan methu ymdopi gyda faint o bobl oedd yn ceisio ei ddefnyddio."
Rhywbeth arall sydd wedi cythruddo cefnogwyr yw bod tocynnau wedi dechrau ymddangos ar wefannau ail-werthu - am ddwbl y pris mewn rhai achosion.
Ar wefan TicketApt, mi fyddai un tocyn mewn sedd yn y categori rhataf ar gyfer y gêm rhwng Cymru a Ffiji, yn costio bron i £150.
Byddai'n rhaid talu £275 i eistedd yn y seddi gorau - teirgwaith yn uwch na'r pris gwreiddiol.
Dyw Caeo ddim yn credu fod hynny'n deg ar gefnogwyr.
"Mae'n andros o rwystredig," meddai.
"Roedd criw ohonom ni wedi dod at ein gilydd a meddwl 'reit 'dan ni'n mynd', ac wedyn yn gweld tocynnau yn cael eu gwerthu ar y gwefannau yma am dair, pedair gwaith y pris."
'Tecach na system loteri'
Yn ôl y trefnwyr, World Rugby, maen nhw'n hyderus bod y systemau yn gallu ymdopi gyda'r galw ac yn credu bod eu cynllun nhw yn decach na defnyddio system loteri.
Mi fydd yna gyfleoedd eto i brynu tocynnau, gyda mwy'n cael ei rhyddhau fis nesa', ond ar ôl eu profiad diweddar mae nifer o gefnogwyr yn poeni y cawn nhw eu siomi unwaith eto.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2017