Ceidwadwyr: 'Creu swyddi, cartrefi a llai o drethi'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Andrew RT Davies yn cyflwyno ei araith ger bron cynhadledd ei blaid ddydd Llun

Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn creu 65,000 o swyddi yng Nghymru yn ystod tymor pedair blynedd nesaf, meddai eu harweinydd yn y Senedd.

Mewn araith ger bron cynhadledd ei blaid ddydd Llun bydd Andrew RT Davies yn dweud y bydd y blaid yn "ailadeiladu ac yn ailgydbwyso" yr economi fel ei bod ar yr un lefel ar draws Cymru gyfan os ydyn nhw'n ennill etholiad y Senedd ar 6 Mai.

Bydd Mr Davies hefyd yn addo y byddai Llywodraeth Geidwadol yn darparu 100,000 o gartrefi newydd dros y deng mlynedd nesaf, ac yn cwtogi trethi i fusnesau bach drwy gael gwared ar ardrethi busnes.

Bydd yn addo "canolbwyntio ar dwf economaidd yn anad dim, ar greu swyddi ac ehangu busnes, gyda chefnogaeth yr isadeiledd a'r dechnoleg gywir."

"Yn yr un modd ag y dangosodd Cymru y gallwn gamu i fyny i'r nod i fynd i'r afael â Covid, mae angen i Gymru gamu i fyny eto i ddarparu'r hwb economaidd sydd ei angen ar ein plant a'n gwlad," medd Mr Davies.

Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn "helpu'r rhannau o'r economi sy'n cael eu taro galetaf gan Covid", yn ôl Mr Davies.

Er mwyn helpu'r diwydiant i gamu "yn ôl ar eu traed", bydd yn addo terfyn o 5% TAW ar gyfer busnesau twristiaeth tan fis Ebrill 2022.

Adfer Awdurdod Datblygu Cymru

Mewn ymgais i weld mwy o fusnesau'n tyfu, byddai'r blaid yn creu "Cynllun Naid Sydyn" a fyddai'n "talu cyfraniadau yswiriant gwladol y cyflogwr i'r ddau aelod cyntaf o staff y mae microfusnesau yng Nghymru yn eu llogi am ddwy flynedd".

Mae'r blaid eisoes wedi addo adfer Awdurdod Datblygu Cymru os ydynt yn ennill etholiad y Senedd.

Yn ogystal ag uno Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru er mwyn ail-greu "agweddau gorau Awdurdod Datblygu Cymru", bydd Andrew RT Davies yn dweud wrth y gynhadledd y bydd y blaid "yn gweithredu pecyn adfer wedi Covid sy'n cynnwys sefydlu Cronfa Fuddsoddi Ailadeiladu Cymru gwerth £2.5 biliwn".