Davies: 'Modd i'r cyhoedd ymddiried yn y Ceidwadwyr'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod y ffaith mai nhw wnaeth gyflawni Brexit yn golygu mai nhw ydy'r blaid orau i adeiladu cynllun adfer o Covid-19 yng Nghymru.
Dywedodd yr arweinydd Andrew RT Davies y gall pobl fod yn hyderus y bydd y blaid yn cyflawni ei haddewidion os yw mewn pŵer wedi etholiad y Senedd ym mis Mai.
Yn ôl Mr Davies byddai'r blaid yn cyflogi 1,200 yn rhagor o feddygon, 3,000 o nyrsys ychwanegol a 5,000 yn fwy o athrawon.
Mae'r blaid hefyd yn addo "y rhaglen fwyaf o ran adeiladu ffyrdd mewn cenhedlaeth".
Yn ei neges yntau i'r gynhadledd dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, bod y pandemig wedi amlygu'r "niwed mae 22 mlynedd o Lywodraeth Lafur wedi ei wneud i Gymru."
Mewn araith sydd wedi'i recordio o flaen llaw ar gyfer cynhadledd rithiol y Ceidwadwyr Cymreig ddydd Sadwrn, dywedodd Mr Davies y byddai ffyrdd gwell yn ei gwneud yn "haws i wneud busnes, mynd i'r gwaith neu weld teulu a ffrindiau".
Fe wnaeth Mr Davies ddychwelyd fel arweinydd y blaid yn y Senedd ym mis Ionawr wedi i Paul Davies ymddiswyddo ar ôl iddi ddod i'r amlwg ei fod wedi yfed alcohol ar dir y Senedd ar ôl i waharddiad ar werthu alcohol mewn adeiladau trwyddedig ddod i rym.
'Egni a syniadau newydd'
Dywedodd Andrew RT Davies bod modd i'r cyhoedd "ymddiried yn y Ceidwadwyr Cymreig i gyflawni newid a chyflawni ei haddewidion".
"Fe wnaethon ni gyflawni Brexit, a nawr byddwn yn adfer Cymru ac yn adeiladu Cymru well," meddai.
"Gydag egni newydd a syniadau newydd, byddwn yn helpu teuluoedd a busnesau yng Nghymru i adfer o'r pandemig a 22 mlynedd o lywodraeth Lafur.
"Byddwn yn adeiladu Cymru well trwy annog twf economaidd a gweithio gyda diwydiannau i greu 65,000 yn rhagor o swyddi erbyn 2026.
"Byddwn yn buddsoddi mewn swyddi gwyrdd a'n helpu ein diwydiant twristiaeth yn ôl ar ei thraed, fel y gall fwy o deuluoedd elwa o swyddi sefydlog sydd â thâl da."
Ychwanegodd Mr Davies: "Mae mwy o fusnes yn golygu mwy o swyddi, sy'n helpu pobl allan o dlodi ac yn talu am ein gwasanaethau cyhoeddus."
Ar hyn o bryd mae gan y Ceidwadwyr 11 sedd allan o'r 60 yn y Senedd.
Mewn neges fideo i'r gynhadledd dywedodd y Prif Weinidiog y Deyrnas Unedig - ac arweinydd y Blaid Geidwadol - Boris Johnson bod y pandemig wedi amlygu'r "niwed mae 22 mlynedd o Lywodraeth Lafur wedi ei wneud i Gymru."
Dywedodd Mr Johnson taw dim ond trwy bleidleisio dros y blaid y gellid adeiladu Cymru gwell.
Dywedodd Llafur bod gan y Ceidwadwyr record druenus yng Nghymru.
Yn ei fideo dywedodd Mr Johnson bod yr etholiad i senedd Cymru fis Mai yn "foment allweddol i bobl Cymru".
Ychwanegodd: "Yn anfoddus mae'r pandemig wedi amlygu'r niwed mae 22 mlynedd o Lywodraeth Lafur wedi ei wneud i Gymru, ond mae gan y Ceidwadwyr Cymreig gynllun i drwsio'r llanast ac ailadeiladu'n well.
"Dim ond os ydych chi'n pleidleisio dros y Ceidwadwyr y gallwn ni adeiladu Cymru gwell a rhoi problemau'r gorffennol, sydd wedi eu pentyrru gan Lafur, y tu ôl i ni.
Dywedodd dirprwy arweinydd Llafur Cymru Carolyn Harris bod gan y Ceidwadwyr "record druenus" yng Nghymru.
Dylai etholwyr "fod yn glir" os ydy'r Ceidwadwyr yn ennill yr etholiad fyddan nhw ddim yn "sefyll i fyny i'w meistri yn Llundain", meddai Ms Harris.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2021