Cosbi bar am gynnal 'cuddfan yfed danddaearol'
- Cyhoeddwyd
Mae bar yn Aberystwyth wedi cael ei gosbi £1,000 a'i orchymyn i gau am 28 diwrnod ar ôl i "guddfan yfed danddaearol" gael ei datgelu ar noson gêm rygbi Ffrainc yn erbyn Cymru yn y Chwe Gwlad.
Datgelodd swyddogion o Dîm Diogelu'r Cyhoedd Ceredigion aelodau o staff y bar a'u ffrindiau'n defnyddio ystafell dros dro oedd wedi'i gosod yn seler Bar 46 ar noson 20 Mawrth 2021.
Yn ôl Cyngor Ceredigion, daeth y swyddogion o hyd i'r grŵp "yn eistedd o gwmpas bwrdd a oedd yn llawn gwydrau yfed, yn ysmygu ac yn gwylio'r sylwebaeth wedi'r gêm ar deledu a oedd wedi cael ei osod yn yr ystafell.
"Roedd yna fainc i eistedd, soffa, bwrdd a stolion bar yn yr ystafell yn y seler."
Yn ôl y canllawiau Covid-19 presennol yng Nghymru, nid oes gan fariau a thafarndai'r hawl i agor ar hyn o bryd.
Yn ogystal, nid oes gan unigolion o aelwydydd gwahanol yr hawl i gwrdd dan do, oni bai fod yna eithriad priodol.
Mae'r bar wedi derbyn Hysbysiad Cau Mangre sy'n para 28 diwrnod, "neu hyd nes y gellir arddangos eu bod wedi gwneud gwelliannau a'u bod yn bodloni gofynion rheoliadau'r Coronafeirws," meddai'r Cyngor.
Ymatebodd swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys i'r digwyddiad ar y safle'r noson honno hefyd, gan helpu i nodi'r unigolion a oedd yn bresennol.
Dywedodd yr Arolygydd Gareth Earp o Heddlu Dyfed-Powys: "Mae'r math hwn o ddifaterwch anghyfrifol i gyfreithiau'r coronafeirws yn peri risg mawr o drosglwyddiad ar gyfer y rheiny sydd ynghlwm, ynghyd â'r cyhoedd ehangach y byddant yn dod i gysylltiad â hwy wedi hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2021