Darllen rhwng y llinellau
- Cyhoeddwyd
Peidiwch gamddeall, rwy'n mwynhau pob etholiad ond rhaid dweud bod etholiadau datganoledig Cymru wedi mynd yn fwy diddorol ar hyd y blynydde' wrth i bwerau Bae Caerdydd gynyddu.
Yn ôl yn 2003, er enghraifft, os cofiaf yn iawn un o'r dadleuon mwyaf tanbaid oedd ynghylch p'un ai plant neu bensiynwyr ddylai gael nofio am ddim ym mhyllau nofio Cymru. Rydym wedi symud ymlaen o hynny, diolch byth!
Yn sicr mae 'na ddigon i'w drafod yn y maniffestos a gyhoeddwyd hyd yma ac mae modd darllen rhwng y llinellau hefyd er mwyn ceisio gweld beth mae'r pleidiau'n disgwyl neu'n gobeithio gwnaiff ddigwydd ar 6 Mai.
Cymerwch y maniffesto Llafur a gyhoeddwyd y bore 'ma er enghraifft. Mae'n cynnwys llwyth o addewidion ond ychydig iawn o'r rheiny fyddai angen deddfwriaeth i'w gwireddu.
I fi mae hynny'n awgrymu'n gryf nad yw Llafur yn disgwyl llywodraethu gyda mwyafrif yn y Senedd.
Mae'n ddiddorol hefyd bod yr hynny o ddeddfwriaeth sy' 'na yn ymwneud â phynciau lle y gellid disgwyl cefnogaeth gan Blaid Cymru, megis addysg cyfrwng Cymraeg a chyfyngu'r defnydd o blastigau.
Fe fyddai angen llawer iawn mwy o ddeddfwriaeth i wireddu rhaglen Plaid Cymru ond go brin fod y blaid honno yn disgwyl mwyafrif chwaith.
Heb os mae maniffesto'r blaid wedi ei lunio fel rhaglen lywodraethiant i'w osod gerbron yr etholwyr, ond gellir gweld y ddogfen hefyd fel rhyw fath o restr siopa ar gyfer senedd grog.
Hynny yw, mae'n rhoi arwydd cryf o'r meysydd lle byddai'r blaid yn fodlon cydweithio er mwyn sicrhau newidiadau deddfwriaethol.
Rhag i neb fy nghamddeall, rwyf o'r farn bod clymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn hynod o annhebyg yn y Senedd nesa.
Gyda Llafur mas o rym yn San Steffan does dim modd iddi dalu'r pridwerth fyddai angen ar Blaid Cymru er mwyn sicrhau ei chefnogaeth.
Senedd o fargeinio cyson fydd yr un nesaf mwy na thebyg, ac mae cymharu maniffestos Llafur a Phlaid Cymru â'i gilydd yn rhoi darlun gweddol o dda i ni o'r math o ddeddfwriaeth fydd yn cael ei thrafod.