Tiwna Cymru'n 'gyfle arbennig' i ymchwil a thwristiaeth

  • Cyhoeddwyd
JLJ
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r actor Julian Lewis Jones yn llywydd ar Ffederasiwn Pysgotwyr Môr Cymru

Mae tiwna anferth yn dechrau dychwelyd i ddyfroedd Cymru gan gynnig "cyfle arbennig" i ymchwil gwyddonol a thwristiaeth leol, yn ôl grwpiau pysgota.

Maen nhw'n awyddus i allu dechrau rhaglen i ddal a thagio nifer cyfyngedig o'r tiwna asgell-las (bluefin).

Ond maen nhw'n rhybuddio bod Cymru "ar ei hôl hi" o'i gymharu â Lloegr a'r Alban.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn rhan o drafodaethau ar draws y Deyrnas Unedig, tra bod yr Ymddiriedolaethau Natur yn pwysleisio'r angen i fod yn bwyllog.

Yn enwog am eu maint a'u cyflymder yn y dŵr - roedd y tiwna wedi diflannu o'r moroedd o amgylch y DU ers y 1960au gyda'r bai yn cael ei roi ar orbysgota diwydiannol a newidiadau hinsoddol.

Ond yn ystod y degawd diwethaf maen nhw'n cael eu gweld eto mewn niferoedd sylweddol rhwng diwedd Gorffennaf a Rhagfyr - gan gynnwys oddi ar arfordir Sir Benfro.

'Potensial i ddenu pysgotwyr ledled y byd'

Mae'r actor Julian Lewis Jones, sy'n llywydd ar Ffederasiwn Pysgotwyr Môr Cymru yn dweud bod 'na botensial bellach ar gyfer sefydlu pysgodfa hamdden i ddal a rhyddhau tiwna fyddai "ymysg y gorau yn y byd".

"Mae potensial anferth gynnon ni - mae pobl yn teithio o ar draws y byd i gael y cyfle i ddal y tiwna yma," meddai.

"Felly mae'r potensial i ddod â physgotwyr i mewn o America, Awstralia, Ewrop.

"Ac os wyt ti'n dod i bysgota i wlad arall ti'n dod â dy deulu efo chdi, ti'n sôn am dwristiaeth yn dod i mewn a'r gwestai, tafarndai, bwytai oll yn ennill."

Disgrifiad o’r llun,

Julian Lewis Jones yn pysgota fel rhan o raglen CHART yn Donegal, Iwerddon

Y cam cynta' fyddai sefydlu rhaglen CHART, meddai - byddai pysgotwyr môr yn medru dal, tagio a rhyddhau nifer fach o'r pysgod tra'n cyfrannu at ymchwil gwyddonol.

Ond rhybuddiodd Mr Jones fod Cymru "ar ei hôl hi" o'i gymharu â gweddill y DU, gyda gobeithion y bydd cyhoeddiad ynglŷn â sefydlu rhaglen o'r fath yn Lloegr ymhen rhai wythnosau, a'r Alban eisoes wedi sicrhau cyllid.

Mae 'na raglen CHART wedi'i sefydlu yn Iwerddon ers dros ddwy flynedd.

Mae adran amgylchedd, bwyd a materion gwledig (DEFRA) Llywodraeth y DU wedi bod yn arwain ymgynghoriad cyhoeddus ar y pwnc.

Fe allai benderfynu i rannu cyfran o'r cwota bychan sy' gan y DU ar gyfer tiwna ar draws y gwledydd datganoledig.

Ond fe fyddai Llywodraeth Cymru ar ôl yr etholiad yn gyfrifol am benderfynu be' sy'n digwydd nesa yn fan hyn.

'Ddim wedi cael lot o sens'

Os ydy Cymru i sicrhau rhaglen CHART ar gyfer y tymor tiwna eleni yna fe fyddai'n rhaid i hynny ddigwydd yn gyflym fel bod modd hyfforddi perchnogion y cychod fyddai'n tywys y pysgotwyr o ran tagio yn ddiogel, a denu prifysgol i fod yn gyfrifol am yr ymchwil.

"Ry'n ni fel grŵp o bysgotwyr wedi bod yn ysgrifennu at y llywodraeth, y fisheries Cymreig - 'da ni ddim wedi cael lot o sens i fod yn onest," meddai Mr Jones.

"'Da ni'n gwbod bod Lloegr bron iawn a bod yno - mae'r Alban yno - hyd yn hyn dydy Cymru ddim yna.

"Mae bod yn observer [o'r broses] a bod yn engaged yn ddau beth gwahanol iawn a mae peryg go iawn ein bod ni'n mynd i fethu allan ar y cyfle arbennig yma."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Alsop am weld Cymru'n dal i fyny gyda gweddill y DU

Un arall sy'n galw am weithredu ar frys yw Andrew Alsop, sy'n mynd â physgotwyr o farina Neyland i bysgota siarcod gyda'i gwmni White Water Charters.

Rhai blynyddoedd yn ôl fe wnaeth ddal tiwna anferth ar ddamwain, ac mae'n dweud ei fod bellach heigiau mawr yn rheolaidd - "golygfa anhygoel y byddai'n rhaid i chi fynd i America neu Affrica i'w phrofi" yn y gorffennol.

Ers hynny mae wedi bod ynghlwm â rhaglen Thunnus y DU, dolen allanol, sy'n ceisio deall mwy am adferiad y tiwna.

Dywedodd y byddai'n "ergyd" gweld rhaglenni ymchwil pellach yn cychwyn ar draws y DU ond nid yng Nghymru.

'Elwa o'r ymchwil'

"Mae'n rhaid gwneud hyn yn iawn wrth gwrs, a rhaid bod pysgotwyr yn deall be maen nhw'n ei wneud - allwch chi ddim jyst mynd mas i'r môr fel yn y ffilm Jaws," meddai.

"Fe fydden ni'n gweithio gyda gwyddonwyr, yn monitro'r pysgod yma felly fe fyddai'r prifysgolion yn elwa o allu cael yr ymchwil sylweddol yma."

Fe ychwanegodd bod y tymor tiwna yn parhau drwy'r hydref a'r gaeaf - adeg o'r flwyddyn lle mae angen hwb ar dwristiaeth ar hyn arfordir y de-orllewin.

"Mae fy nghwch i yn dod â bois i mewn o Norwy ac America yn barod. Ond tiwna yw brenin y môr - fe fyddai pobl yn teithio o bob cwr o'r byd i'w gweld."

Disgrifiad o’r llun,

Tiwna mawr yn neidio o'r môr ger arfordir Aberdaugleddau

Ond yn ôl Joan Edwards, rheolwr polisi yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt, mae'n iawn i lywodraethau gymryd eu hamser wrth ystyried y mater.

"Dwi yn poeni am hyn - dros y 50 i 60 mlynedd diwethaf ry'n ni wedi colli 80% o'r tiwna asgell-las yng nghefnfor yr Iwerydd a dim ond dechrau gweld adferiad ydyn ni," meddai.

"Mae'r rhain yn anifeiliaid gwefreiddiol - 10 troedfedd o hyd, yn pwyso 580 cilo - a nhw yw'r pysgodyn cyflyma' yn y byd.

"Dwi'n siŵr ei bod hi'n gyffrous iawn i ddal pysgodyn o'r fath ond fe ddylen ni ystyried pa mor drawmatig yw hynny i'r pysgodyn.

"Dwi jest yn teimlo ein bod ni'n gweld ryw adferiad yn digwydd yn ein hamgylchedd morol ac mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu - dwi ddim yn credu y dylen ni fod yn eu dal nhw."

Beth mae'r gwleidyddion yn ei ddweud?

Dywedodd Plaid Cymru eu bod wedi ysgrifennu yn barod i weinidogion Llafur Cymru yn eu hannog nhw i "gymryd rhan lawn yn y broses" a "sicrhau nad ydyn ni'n cael ein gadael ar ôl".

Yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig maen nhw'n "cefnogi'r syniad o dagio ar gyfer ymchwil, ond mae'n bwysig bod y penderfyniadau yma'n cael eu harwain gan y data a dylai grwpiau sydd â diddordeb allu roi eu barn ar yr opsiynau amrywiol".

Dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru fod pysgota yn "hanfodol i economi Cymru a bod yn rhaid i lywodraeth nesaf Cymru wneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod y diwydiant yn gallu aros ar y dŵr".

"Mae gwir berygl i Gymru gael ei gadael ar ôl," meddai llefarydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "ynghlwm â rhan 2 o'r prosiect Dal, Tagio a Rhyddhau Tiwna sy'n cael ei arwain gan DEFRA".

Pynciau cysylltiedig