Nyrsys Ffilipinaidd y gogledd yn 'difaru dim' wedi 20 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Joanne Yn Ysbyty Wrecsam Maelor Hospital 20 mlynedd yn olFfynhonnell y llun, Joanne Canlas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joanne Canlas "mor falch" ei bod wedi penderfynu dod i Gymru

Mae nyrsys a symudodd o Ynysoedd y Ffilipinau i weithio mewn ysbytai yng ngogledd Cymru yn dweud eu bod yn difaru dim wedi 20 mlynedd o ofalu am gleifion yr ardal.

Oherwydd prinder nyrsys yn 2001, fe wnaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) recriwtio oddeutu 100 o nyrsys Ffilipinaidd a'u lleoli o fewn tair prif ysbyty'r gogledd.

Ar y pryd roedd y recriwtio yn fesur dros dro, gyda'r nyrsys yn derbyn contractau dwy flynedd yn unig.

Ond erbyn hyn, mae nifer ohonynt wedi aros ac adeiladu bywydau yma yng Nghymru.

'Da a drwg, ond dwi mor falch'

Roedd Joanne Canlas yn 27 oed pan gyrhaeddodd hi Wrecsam fel rhan o grŵp o 50 i ddechrau swydd yn Ysbyty Maelor.

"Fe gyrhaeddon ni yn Heathrow ym mis Mawrth. Roedd y tywydd yn eithriadol o oer. Nes i ddod i arfer."

Dechreuodd hi weithio mewn gofal critigol ble mae hi'n dal i weithio fel sister dros dro.

Dyna hefyd ble mae ei gŵr, Emerson, sydd hefyd yn Ffilipinaidd, yn gweithio.

Ffynhonnell y llun, Joanne Canlas
Disgrifiad o’r llun,

I ŵr Joanne, Emerson, mae Wrecsam yn "gartref oddi cartref"

Fe wnaeth y ddau gyfarfod wrth fyw mewn llety ysbyty cyfagos, ac mae ganddynt nawr ddau fab 15 a 13 oed.

"Maen nhw'n mynd i'r ysgol, ble maen nhw'n dysgu am yr iaith Gymraeg. Y nhw yw'r rhai sy'n dysgu ni.

"I ddechrau, roedd o'n anodd i mi ddeall yr iaith Brydeinig a'r iaith Gymraeg, yn ogystal â rhai geiriau slang. Ond nawr dwi hyd yn oed yn medru deall 'chydig o eiriau Cymraeg.

"Dwi'n medru dweud bore da pan yn mynd o gwmpas y ward, nos da, diolch a chroeso. Mae'r bobl yma yn garedig iawn ac yn gymwynasgar."

'Cymru'n gartref oddi gartref'

Dywedodd Emerson Canlas, sy'n 45, fod Wrecsam yn "gartref oddi cartref" ond er ei fod yn hoff o gestyll a thraethau Cymru, mae'n hiraethu am y Ffilipinau, ac mae wedi bod yn anodd iddo beidio medru teithio yno yn ystod y pandemig.

"Roedd yn anodd iawn i ni, yn enwedig i'n rhieni gan fod pump ohonom ni'n nyrsys yn y teulu."

Ffynhonnell y llun, Joanne Canlas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Joanne Canlas yn 27 pan symudodd i ogledd Cymru

Soniodd y cwpl pa mor anodd oedd y flwyddyn ddiwethaf wedi bod iddyn nhw a'u cydweithwyr, ac yn enwedig eu cleifion.

"Roedd yn dorcalonnus eu gweld nhw'n colli eu hanwyliaid - nid oeddent yn cael eistedd wrth eu gwlâu.

"Roedd yn rhaid i ni afael yn eu dwylo er mwyn gadael iddynt wybod nad oeddent ar ben eu hunain.

"Roedd yn mor anodd gweld ffrindiau a chydweithwyr fel cleifion oherwydd Covid, ond fe lwyddon ni i dynnu drwodd."

'Gweithio dramor yw'r unig ffordd'

Cafodd nyrsys Ffilipinaidd hefyd eu recriwtio i Gaerdydd, Abertawe a Sir Benfro cyn i'r grŵp ddod i ogledd Cymru yn 2001.

Fe wnaeth Arniel Hernando, sy'n 50, gyrraedd gyda'r grŵp cyntaf. Dechreuodd yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor fel nyrs gofal critigol ac mae o bellach yn uwch ymarferydd ac arweinydd llawfeddygol yno.

Mae ei wraig, sydd hefyd yn nyrs, wedi cymryd swydd yn America. Ond i Ffilipiniaid, "gweithio dramor yw'r unig ffordd y gallwch roi bywyd da i'ch teulu", meddai.

"Rydym yn gwneud hyn ar bwrpas, rydym yn gwneud hyn ar gyfer ein teulu. Nid yw gweithio fel nyrs yn Ynysoedd y Ffilipinau yn talu'n dda iawn.

"Mi 'nes i weithio yno am 'chydig o flynyddoedd a dwi'n credu mai'r cyflog uchaf ges i oedd £150 y mis."

Mae ei blant, sydd bellach wedi tyfu fyny, hefyd yn nyrsio. Bydd ei fab 21 oed yn ymuno ag ef yng Ngwynedd i ddechrau swydd yn yr ysbyty unwaith y bydd cyfyngiadau teithio yn caniatáu.

Nyrsys Ffilipinaidd yn 'hanfodol' i'r GIG

Dywedodd Helen Whyley, Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys yng Nghymru, eu bod yn "hanfodol" i helpu'r GIG yng Nghymru i fynd i'r afael â phrinder nyrsys.

"Roedd ganddom nifer sylweddol o swyddi nyrsys gwag, ac yn anffodus, rydym yn gweld rhywbeth tebyg iawn nawr.

"Fe wnaethant ddod yn rhan o'r teulu nyrsio yn sydyn iawn... Rydym yn andros o ddiolchgar eu bod wedi dewis aros."

Dywedodd Joanne Canlas nad oedd hi'n difaru dod i Gymru, a'i bod yn ddiolchgar dros ben i'w thîm a'r GIG.

"Mae pethau da a drwg dros y blynyddoedd, ond er hynny, dwi mor falch fy mod wedi penderfynu dod.

"Nid yn unig i mi fy hun, ond i fy nheulu yn ôl adref. 'Nes i hefyd fagu fy nheulu fy hun yma."

Mae'r un peth yn wir i Arniel Hernando.

"Es i i Lundain i weithio pum mlynedd yn ôl. Roeddwn i eisiau rhoi cynnig arni.

"Ond yna roeddwn i'n colli adref, oherwydd mae'n debyg mai dyma yw fy nghartref, fy ail gartref.

"Rwy'n hapus i ddod yn ôl."

Pynciau cysylltiedig