Lefelau straen nyrsys wedi codi ers Covid, medd arolwg
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru osod cynllun hirdymor i ddelio â phroblemau iechyd meddwl nyrsys sy'n ceisio ymdopi â straen wedi trawma, medd undeb nyrsio'r RCN.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd Nicola Davis-Job, llefarydd ar ran y Coleg Nyrsio Brenhinol, bod nyrsys wedi llwyr ymlâdd ac yn teimlo nad yw eu gwaith yn cael ei werthfawrogi,
"Maen nhw wedi cael digon. Dy'n nhw ddim yn gallu cysgu'r nos achos dy'n nhw ddim yn gallu diffodd a switcho off. Maen nhw'n meddwl am y cleifion drwy'r amser," meddai.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod wedi buddsoddi mewn sawl cynllun sy'n helpu i gefnogi iechyd meddwl gweithwyr iechyd.
Un o bryderon mwyaf yr RCN yw'r cynnydd yn nifer y nyrsys sy'n lladd eu hunain. Yn ôl y coleg, mae canran y nyrsys sy'n lladd eu hunain 23% yn uwch na gweddill y boblogaeth ac mae'r proffesiwn dan bwysau annerbyniol,
"Nhw falle fydd yr unig arian fydd yn dod mewn i'r teulu nawr, achos ffyrlo," medd Nicola Davis-Job.
"Mae pressure hefyd. Maen nhw'n neud homeschool i'r plant, dishgwl ar ôl rhieni, neu neud y siopa iddyn nhw. Maen nhw'n neud 'ny ar ôl gwaith. Maen nhw'n gweld pobl yn marw drwy'r amser nawr. Amser o'n i ar y ward, o'n i'n gweld un person. Nawr maen nhw'n gweld llawer mwy 'na hynny mewn un shifft."
'S'dim nyrsys i gael'
Pryder arall yw y bydd y prinder sydd yna o nyrsys yn gwaethygu dros y misoedd nesaf.
Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol mae nifer o nyrsys wedi dod nôl o ymddeoliad, myfyrwyr wedi dechrau gweithio'n gynnar, a nyrsys wedi'u recriwtio o dramor i geisio ymateb i'r galw.
Ond, mae llawer o aelodau'r undeb wedi rhybuddio y byddan nhw'n gadael y proffesiwn.
"Mae'n drist iawn. Ni'n gwybod bod rhai nyrsys yn dweud bo nhw'n mynd i adael ar ôl i Covid gwpla.
"'S'dim student nyrsys yn dod mewn i'r proffesiwn. Ni'n desperate. 'S'dim nyrsys i gael."
Mae'r Undeb wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, ar y cyd â Choleg Brenhinol y Bydwragedd ag Undeb Unison, i ofyn am godiad cyflog i nyrsys,
"Nid dim ond i gael yr arian, ond i gael y ffydd nôl 'fyd. Maen nhw'n meddwl bo nhw'n ddiwerth, achos s'neb yn dod i sylw," ychwanega Nicola Davis-Job.
Rai misoedd wedi i bandemig Covid-19 daro Prydain y llynedd, fe gynhaliodd yr RCN arolwg i archwilio effaith gweithio ar y rheng flaen ar staff nyrsio.
Roedd 2,000 o aelodau'r undeb yng Nghymru wedi ymateb, ac fe nododd tri chwarter, 75.9%, bod eu lefelau stress wedi cynyddu, a bod dros eu hanner, 52%, yn pryderu am eu hiechyd meddwl,
"Amser mae dydd off 'da nhw, maen nhw'n meddwl mwy a mwy (am eu gwaith)," medd Nicola Davis-Job, "Mae'r stress maen nhw'n dioddef yn fwy a mwy."
Cymorth ar gael
Mae byrddau iechyd unigol yn darparu cymorth a chyngor gan gwnselwyr ac mae llinell ffôn arbennig wedi ei sefydlu i helpu gweithwyr rheng flaen y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sydd â phryderon am iechyd meddwl.
Mae'r linell ar gael i nyrsys, parafeddygon, myfyrwyr a staff gweinyddol. Prifysgol Caerdydd wnaeth sefydlu y linell, Iechyd i weithwyr iechyd Proffesiynol Cymru, dolen allanol gyda chefnogaeth o dros filiwn o bunnau gan Lywodraeth Cymru.
Mae cyfarwyddwr y prosiect, yr athro Jonathan Bissell, yn cyfaddef fod straen wedi trawma ymysg gweithwyr sy'n delio a chleifion Covid-19 yn fater pwysig iawn, a bod yna strategaeth tymor hir i gefnogi gweithwyr.
Yn ôl llefarydd Plaid Cymru ar iechyd Rhun ap Iorwerth mae'n bwysig bod digon o sylw yn cael ei roi i effaith y pandemig ar weithwyr iechyd a gweithwyr gofal.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos ei fod yn cymryd hyn o ddifrif, gyda strategaeth gadarn ar gyfer gweithwyr, strategaeth sy'n ystyried anghenion iechyd meddwl, gan gynnwys digon o amser i orffwyso wedi'r pandemig, ac i fynd i'r afael â'r angen i recriwtio a hefyd i gadw gafael ar staff."
Mewn datganiad, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ymrwymiad a gwaith caled diflino nyrsys ar draws Cymru wedi bod yn wirioneddol nodedig.
"Rydym ni'n cydnabod y pwysau mae gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd yn ei wynebu ac rydym ni yn gweithio'n agos â chyflogwyr y GIG a'r undebau i greu pecyn llesiant cyflawn i helpu eu cynnal.
"Mae'n cynnwys llinell gymorth benodol a chyfrinachol i'r Samariaid. Rydym ni hefyd wedi ymestyn ein gwasanaeth "Iechyd i Weithwyr Iechyd Cymru, dolen allanol" sy'n cynnig cymorth seicolegol a meddyliol, yn ogystal â nifer o apiau iechyd a llesiant rhad ac am ddim fel Mind, dolen allanol, Sleepio, dolen allanol a Daylight, dolen allanol a SilverCloud, dolen allanol."
Mae RCN Cymru wedi croesawu fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn sawl cynllun sy'n helpu i gefnogi iechyd meddwl gweithwyr iechyd.
Mae elusen iechyd meddwl Mind yn dweud eu bod yn cytuno â'r Coleg Nyrsio brenhinol, "bod angen strategaeth hirdymor i helpu delio ag ôl-effeithiau'r pandemig ar iechyd meddwl gweithwyr y rheng flaen.
"Ry'n ni'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried hyn yn eu cynlluniau a chymryd y camau angenrheidiol i roi'r gofal sydd ei angen i bobl," medd Simon Jones, pennaeth polisi Mind Cymru.
"Mae yna gymorth gan sefydliadau elusennau fel Y Samariaid, dolen allanol, Mind, Shout 85258, dolen allanol, ac mae Hospice UK wedi lansio Our Frontline, dolen allanol gyda chymorth y Sefydliad Brenhinol, i gynnig cymorth 24 awr ac adnoddau i weithwyr allweddol yn ystod y pandemig," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021