'Ymosodiadau' ar nyrsys oherwydd coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae rhai nyrsys sy'n gweithio yn yr ysbyty lle cafodd nifer sylweddol o gleifion eu heintio a'r coronafeirws wedi wynebu "ymosodiadau emosiynol" gan aelodau o'r cyhoedd - yn ôl meddyg blaenllaw.
Mae Dr Nerys Conway, sy'n ymgynghorydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac yn gyfarwyddwr meddygol cynorthwyol, yn dweud ei bod hi'n gwybod am "rai achosion ofnadwy" lle mae nyrsys wedi cael eu "sarhau " yn gyhoeddus neu ar gyfryngau cymdeithasol.
Yn ôl Dr Conway, mae nifer o staff yn teimlo bod "pobl yn ei beio nhw" wedi i'r firws ledaeni y tu fewn i'r ysbyty.
Hyd yma, mae 186 o achosion a 51 o farwolaethau wedi'u cysylltu ag Ysbyty Brenhinol Morgannwg, er ei bod yn ymddangos bod cyfraddau wedi sefydlogi yn ddiweddar.
Mae Dr Conway yn mynnu fod y profiad wedi bod yn "erchyll" i staff sy'n gweithio'n galed i ofalu am gleifion yn ystod y don ddiweddaraf o Covid-19.
"Mae llawer yn teimlo bod pobl yn ei beio nhw ac rwy'n gwybod am rai achosion ofnadwy lle mae nyrsys wedi dioddef ymosodiadau emosiynol y tu allan i'r gwaith - galw enwau ac ati a phobl yn teimlo fel tasan nhw yn cael eu herlid o ganlyniad - mae hynny wedi bod yn erchyll," meddai.
"Mae rhai o'r nyrsys wedi cael eu cam-drin yn emosiynol ar gyfryngau cymdeithasol .... Rwy'n teimlo'n flin iawn drostyn nhw yn arbennig gan fy mod wedi gweld ei hymroddiad diflino ym mhob un o'r wardiau, rwy'n hynod falch ohonyn nhw - maen nhw wedi gofalu am bobl a'u teuluoedd mor dda."
Dywedodd Hywel Daniel, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithlu bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg fod ymrwymiad staff i ddarparu'r gofal gorau posibl yn ystod y pandemig yn "rhyfeddol" tra'i bod nhw yn wynebu wyneb "pwysau eithafol".
Ychwanegodd Mr Daniel fod cam-drin yn bersonol, dros y ffôn neu ar-lein yn "gwbl annerbyniol" ac na fyddai'n cael ei oddef.
"Rydym yn hynod falch o'n gweithlu ac mae eu lles yn hollbwysig wrth i ni fynd i mewn i'r hyn yn anochel fydd yn aeaf anodd.
"Rydym yn galw ar bawb ar draws ein cymunedau i gefnogi ein staff a chydnabod y gwaith anhygoel y maent yn ei wneud ar yr adeg heriol hon."
Yn ogystal ag yn ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae prif ysbytai eraill bwrdd iechyd Cwm Taf-Morgannwg wedi cofnodi clystyrau sylweddol o heintiau.
Mae Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cofnodi 137 o achosion a 22 o farwolaethau hyd yma, tra bu 90 o achosion ac 20 o farwolaethau yn gysylltiedig â heintiau yn ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.
Fe fydd y ffigurau diweddaraf ar gyfer heintiau yn ysbytai'r bwrdd yn cael eu cyhoeddi ddydd Mawrth.
'Nid methiant yw hyn'
Mae penaethiaid y bwrdd iechyd yn mynnu eu bod wedi gweithio'n galed i gryfhau gweithdrefnau rheoli heintiau, ond yn cydnabod ei bod yn anodd iawn atal heintiau mewn ysbytai pan fo Covid yn lledaenu'n eang mewn cymunedau lleol.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Prif Weithredwr y gwasanaeth iechyd yng Nghymru mai dim ond canran fach o bobl sy'n dal Covid y tu fewn i ysbytai.
Dywedodd Andrew Goodall: "Nid methiant gweithdrefnau golchi dwylo neu reoli heintiau yn unig yw hyn. Mae'r feirws hwn yn heintus iawn a gellir ei drosglwyddo yn rhwydd.
"Mae'n arbennig o anodd ei atal rhag lledaenu mewn amgylchiadau gofal prysur, yn enwedig gyda thua 90 o bobl â Covid yn cael eu derbyn bob dydd ar hyn o bryd." meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2020