Colli hunaniaeth a 'rhoi nôl' i rieni eraill
- Cyhoeddwyd
Eisiau 'rhoi nôl' oedd Dr Anwen Jones pan ddechreuodd ei blog The Jones Essential, meddai, ynghyd â chael rhywbeth iddi hi yn unig.
Mae hi'n fam i ddwy o ferched bach, Mali ac Efa, ac yn wraig i gapten tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones, ond ar ôl rhoi'r gorau i weithio, dechreuodd deimlo ei bod wedi colli ei hunaniaeth.
A hithau wastad wedi gweithio - fel uwch ddarlithydd ffisioleg ym Mhrifysgol y Met, Caerdydd - mae'n cyfaddef iddi 'stryglo tipyn bach'.
"O'n i ddim yn gwybod pwy o'n i," rhannodd. "O'n i'n fam i'r ddwy ferch gorjys hyn, sy' llawn bywyd ac yn llanw mywyd i'n llawn. Ond yn dod o berson o'dd wastad wedi gweithio a wastad wedi cael rhywbeth i'n hunan, o'n i'n ffeindio hwnna'n anodd dros ben."
Roedd Anwen wedi dychwelyd i'r gwaith yn rhan amser ar ôl genedigaeth ei merch hynaf, Mali, ond ar ôl cael cyfnod mamolaeth gydag Efa, penderfynodd y teulu y byddai hi'n syniad da i Anwen gymryd saib o'r gwaith.
"O'dd e'n flwyddyn Cwpan y Byd ac o'n i'n gwybod bydde Alun ddim 'ma lot, y ddwy fach 'da fi - Mam a Dad ddim yn byw yn agos iawn i fod 'ma drwy'r amser.
"A wedyn ar ôl i'r saib ddod i ben, penderfynu falle bod hi'r peth gorau i ni fel teulu mod i ddim yn mynd yn ôl i'r gwaith achos y teithio. O'n i'n gweithio yng Nghaerdydd - o'dd e'n heriol i edrych ar y ddwy fach a bod Alun bant gymaint, a lot o ddibynnu ar fy mam a'n nhad i.
"Penderfyniad anodd dros ben i fi, achos o'n i'n annibynnol ac o'n i'n joio gweithio. Ond fi'n credu hwnna oedd y peth gorau i ni ar yr adeg yma yn ein bywyd ni.
"Ni'n lwcus ofnadwy bo' fi 'di gallu gwneud y penderfyniad, fi yn gwybod mod i mewn sefyllfa lwcus iawn."
Rhannu cyngor ar Instagram
Yn ystod y cyfnod clo cyntaf y llynedd, byddai Anwen yn rhoi lluniau ar ei chyfrif Instagram o'r gweithgareddau roedd hi'n eu gwneud gyda'r teulu, a cafodd ei hannog gan ffrindiau i rannu'r tips yn gyhoeddus.
"Am sbel, achos ni'n deulu eitha' preifat, o'n i'n meddwl 'na na, 'sa i mo'yn gwneud hwn'. A wedyn, o'n i'n meddwl 'pam na?'.
"Dros y cyfnod clo o'n i'n ysgrifennu blogiau am beth oedd y plant yn 'neud, pa deganau o'n i'n hoffi ac yn meddwl o'dd yn grêt, pethau o'n i'n 'neud 'da'r plant.
"Yr haf diwethaf, dyma ni'n mynd bant am benwythnos i Dalacharn ac aethon ni i Folly Farm, [felly ysgrifennu] beth oedden ni'n pacio i fynd. Jest pethau bach ffor'na."
Ar ei blog a'i chyfrif Instagram, mae hi'n trafod bywyd, o fronfwydo, i beth i'w bacio i'r plant wrth fynd ar wyliau i'w paratoi'r i ddychwelyd i'r ysgol, y cyfnodau hapus a'r cyfnodau anoddach.
"Dechreuais i siarad ar y blog yn dweud o'n i eisiau rhoi rhywbeth nôl, dangos be' o'n i wedi defnyddio a rhoi rhywbeth nôl i famau eraill a dangos bo' fi'n teimlo r'un peth.
"Dros y cyfnod clo diwetha, dwi ddim wedi ysgrifennu lot o flogiau... dwi 'di bod yn gwneud mwy ar Instagram, achos bod e fwy yn y foment, a 'sdim lot o amser 'da fi i ysgrifennu blog!"
Chwe Gwlad 2021 yn 'heriol'
Mae hi'n sicr wedi bod yn gyfnod prysur iawn yn ddiweddar, gan fod y Chwe Gwlad yn golygu fod Alun ddim wedi bod adref llawer ers mis Ionawr. Mae cyfnod y Chwe Gwlad yn un heriol i deulu chwaraewyr y tîm cenedlaethol bob blwyddyn, meddai Anwen, ond roedd y pandemig wedi gwneud pethau'n llawer anoddach - iddi hi a'r plant.
"[Fel arfer] ni'n llanw'n amser ni gyda gweld ffrindiau, mynd bant am benwythnosau, aros gyda Mam-gu a Tad-cu, a hefyd yn mynd i weld y rygbi.
"O'dd eleni'n wahanol - dim help Mam-gu a Tad-cu, ni ddim wedi gallu mynd i aros yn unman arall, so ni'n gallu gweld pobl, so ni'n gallu cael ffrindie draw - mae e wedi bod yn un heriol ofnadwy.
"Ar ddechrau'r Chwe Gwlad, yr amser aeth Alun mewn i'r garfan ynghanol mis Ionawr, o'dd Mali ac Efa dal adre 'da fi. 'Nath Mali ffeindio hwnna'n rili anodd, achos bod Dadi wedi bod yn dod gartre bob nos o'r Gweilch, a nawr o'dd Dadi wedi mynd. A ddim dim ond am dri diwrnod, ond o'dd e'n mynd am wyth diwrnod ar y tro.
"Ac mae hi'r oedran 'na nawr, mae hi'n ei weld e'n rili anodd, achos o'dd hi methu gweld Mam-gu a Tad-cu ac o'n i ffili llanw ei bywyd hi. Mae e wedi bod yn un heriol ofnadwy.
"Ond fi'n teimlo'n prowd ofnadwy o'r tîm yn gyfangwbl ac o Alun, fel fy ngŵr i ac fel chwaraewr rygbi. Allen nhw ddim fod wedi gwneud mwy a maen nhw wedi treial eu gorau, a 'na i gyd 'yn ni'n gallu gofyn."
Gwrandewch yn ôl ar Anwen yn sgwrsio ar Gwneud Bywyd yn Haws ar BBC Sounds
Hefyd o ddiddordeb: