Carchar i ddyn, 29, am orfodi bachgen, 15, i anfon lluniau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei garcharu am wyth mlynedd a hanner ar ôl twyllo bachgen 15 oed i anfon delweddau rhywiol graffig ato ar-lein.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y bachgen yn credu ei fod yn anfon y delweddau at fenyw ifanc y credai oedd yn gariad iddo dros gyfnod o flwyddyn.
Ond roedd y ddynes yn ffug ac anfonwyd y delweddau at Darren Hart, dyn 29 oed o'r Alban.
Clywodd y llys fod Hart wedi cyfeillio â'r bachgen, o dde Cymru, trwy chwarae gemau ar-lein ac yna ei gyflwyno i bersona ffug y fenyw.
'Hunan-niweidio eithafol'
Dywedodd bargyfreithiwr yr erlyniad, Matthew Roberts, wrth y llys fod y bachgen wedi cael ei orchymyn i anfon y delweddau oherwydd bod y ddynes wedi ei chipio yn America a'i bod "yn cael ei dal gan gang a fyddai'n ei brifo ac yn ei threisio pe na bai'n gwneud fel yr oedd yn cael ei orchymyn i wneud".
Clywodd y llys fod rhieni'r bachgen wedi tynnu dyfeisiau cyfrifiadurol oddi arno ar ôl i bryderon gael eu codi yn yr ysgol.
Ond llwyddodd Darren Hart i anfon ffôn arall at y bachgen er mwyn iddo barhau i anfon y delweddau eithafol.
Fe'u hanfonwyd trwy sawl cyfrif cyfryngau cymdeithasol at y gariad ffug.
Dywedodd Mr Roberts fod y bachgen yn "brainwashed" gan y diffynnydd i wneud cannoedd o ddelweddau a fideos o weithredoedd rhywiol o "hunan-niweidio eithafol i gyfeiriad y diffynnydd".
'Gweld teulu fel y gelyn'
Cafodd Darren Hart ei arestio ar ei ffordd gyda'i lys-dad i gwrdd â'r bachgen yn ne Cymru gyda'r bwriad o'i "symud at ddibenion rhywiol i'r Alban" heb yn wybod i'w rieni.
Clywodd y llys fod y bachgen o ganlyniad yn gweld ei deulu fel "y gelyn" er bod eu perthynas wedi gwella yn ddiweddar.
Dywedodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad, Susan Ferrier, wrth y llys fod gan Darren Hart "gymeriad mewnblyg" heb unrhyw hanes o droseddu.
Ychwanegodd fod Hart yn "ddyn unig a gafodd drafferth gyda'i iechyd meddwl" a oedd wedi bod mewn perthynas gyfrinachol â'i lys-dad ers ei fod yn 18 oed.
Plediodd Hart yn euog i 10 cyhuddiad o droseddau rhyw mewn gwrandawiad cynharach.
Cafodd ei ddedfrydu i wyth mlynedd a hanner yn y carchar gyda chyfnod estynedig o bedair blynedd ar drwydded.
Rhaid iddo hefyd gydymffurfio â gorchymyn atal niwed rhywiol am gyfnod amhenodol.