Y Gynghrair Genedlaethol: Notts County 1-0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Roedd un gôl yn ddigon i Notts County gipio'r triphwynt yn erbyn Wrecsam, a'u codi uwchben y Dreigiau yn nhabl Cynghrair Genedlaethol Lloegr ddydd Gwener.
Mark Ellis gafodd y gôl allweddol wedi 80 munud, ond daeth drama cyn diwedd y gêm.
Fe welodd Kyle Wootton ail gerdyn melyn, ac felly cerdyn coch, ym munud ola'r 90 am drosedd wael ar Theo Vassell.
Ond er fod y tîm cartref i lawr i 10 dyn, roedd Wrecsam eisoes wedi defnyddio'u holl eilyddion, a doedd Vassell ddim yn ddigon iach i barhau felly roedd yr ymwelwyr hefyd ddyn yn brin.
Daeth rhediad Wrecsam o saith gêm heb golli i ben felly, ond roedden nhw'n euog o fethu sawl cyfle yn yr hanner cyntaf.
Fe fydd hynny'n bryder i Wrecsam gan bod eu prif sgoriwr y tymor hwn, Kwame Thomas, wedi clywed y bydd yn colli gweddill y tymor gydag anaf, a bu'n rhaid i ymosodwr arall - Jordan Ponticelli - adael y maes cyn diwedd yr hanner cyntaf gydag anaf hefyd.
Mae Wrecsam wedi disgyn i chweched yn y tabl, ac wedi chwarae un gêm yn fwy na chlwstwr i dimau oddi tanyn nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2021