Mwy o staff diogelwch oherwydd partïon myfyrwyr
- Cyhoeddwyd
Mae yna honiadau bod y nifer o staff diogelwch o gwmpas neuaddau preswyl Prifysgol Caerdydd wedi cynyddu yn sgil pryderon am fyfyrwyr yn cynnal partïon sy'n torri rheolau Covid-19.
Mynegodd llythyr i aelodau undeb Unsain bryder am "bartïon a chasgliadau mawr" o bobl mewn neuaddau preswyl.
Dywed y llythyr, sydd wedi cael ei weld gan y BBC: "Mae'r casgliadau a phartïon yma'n anghyfreithlon a'n peryglu iechyd staff a myfyrwyr."
Dywedodd y brifysgol bod lleiafrif bach ddim yn dilyn y rheolau a bod partïon wedi digwydd ar rai o safleoedd y brifysgol.
Ychwanegodd fod achosion o'r rheolau'n cael eu torri yn cael eu hymchwilio gan y brifysgol "yn aml ynghyd â Heddlu De Cymru".
O dan gyfyngiadau presennol coronafeirws Cymru, nid oes gan grwpiau mawr o bobl yr hawl i gwrdd tu fewn a dim ond chwe pherson o ddwy aelwyd sy'n gallu cwrdd tu allan.
Dywedodd llythyr Unsain, gafodd ei anfon mewn e-bost a welwyd gan BBC Cymru, bod partïon a chasgliadau o bobl yn cymryd lle yn bennaf mewn dau lety preswyl, Talybont a Neuadd y Brifysgol.
"Ry'n ni'n cydnabod pa mor rhwystredig mae nifer o'n myfyrwyr, serch hynny rydyn ni'n cefnogi'r brifysgol yn llawn yn ei hymdrechion i geisio stopio'r ymddygiad peryglus ac anghyfreithlon yma," medd yr e-bost.
Dywedodd fod staff diogelwch ychwanegol o gwmni Showsec wedi cael eu cyflogi ar nosweithiau pan mae eu hangen.
Dywed y llythyr bod Showsec ond yn cael ei ddefnyddio fel "mesur dros dro" a byddai ond yn cael ei ddefnyddio "ar nosweithiau pan mae yna broblemau".
Yn ôl yr e-bost mae pedwar o staff diogelwch newydd wedi cael eu cyflogi gan y brifysgol.
"Mae yna lawer o fesurau sy'n benodol am Covid sydd eu hangen ar hyn o bryd fel bod diogelwch ein holl staff a myfyrwyr yn cael ei flaenoriaethu ac mae'r undebau llafur yn hollol gefnogol o bob mesur sy'n cynyddu diogelwch."
Rhan fwyaf yn 'bihafio'n gyfrifol'
Mae profiad myfyrwyr wedi bod yn wahanol iawn i'r rheiny sy'n astudio eleni, gyda champysau ar gau, darlithiau wedi eu canslo, a nosweithiau allan wedi eu gwahardd am y rhan fwyaf o'r flwyddyn.
Anogodd arlywydd NUS Cymru, Becky Ricketts, fyfyrwyr i "lynu at y rheolau".
"Fel unrhyw ran o'r gymdeithas, bydd wastad nifer fach o bobl sy'n torri'r rheolau, ond gallwn ddim beio myfyrwyr a phobl ifanc i gyd, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn bihafio'n gyfrifol," meddai.
"Mae'r cynllun a gafodd ei gyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon i lacio cyfyngiadau yng Nghymru yn golygu, gan wneud y peth cywir am ychydig mwy o amser, bydd myfyrwyr yn gallu gwneud mwy gyda mwy o bobl cyn bo hir.
"Byswn ni'n annog prifysgolion i barhau i gyfathrebu'r rheolau diweddaraf i'w myfyrwyr ac osgoi gor-blismona ein campysau."
Dywedodd Prifysgol Caerdydd ei bod yn cymryd iechyd a diogelwch myfyrwyr o ddifri.
Dywedodd llefarydd nad oedd defnyddio diogelwch preifat yn beth newydd a'i fod wedi bod mewn lle ers dechrau'r flwyddyn academaidd "yn enwedig mewn ymateb i gynnydd yn y nifer o bobl sydd ddim yn breswylwyr yn ceisio cael mynediad iddyn nhw".
"Mae'r nifer helaeth o fyfyrwyr yn dilyn y rheolau Covid-19 ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am wneud.
"Ond fel prifysgolion eraill, mae yna nifer fach sydd ddim yn dilyn y rheolau ac rydyn ni wedi gweld partïon a chasgliadau eraill o bobl yn ymgasglu mewn ardaloedd cymunedol mewn rhai o'n safleoedd, gan cynnwys Neuadd y Brifysgol a Talybont.
"Mae'r math yma o ddigwyddiadau, sydd yn erbyn y canllawiau presennol Covid-19, yn annerbyniol ac mae gennym ni ddyletswydd i weithredu."
Mae achosion o dorri'r rheolau'n cael eu hymchwilio gan adran ddiogelwch y brifysgol "yn aml ynghyd â Heddlu De Cymru".
"Maen nhw wedi arwain at hysbysiadau cosb benodol a chontractau ymddygiad derbyniol, ac, mewn rhai achosion, fe all arwain at weithredu rheolau disgyblu'r brifysgol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021