'Dylai prifysgolion barhau i ddysgu ar-lein tan fis Medi'
- Cyhoeddwyd
Mae uwch-ddarlithydd wedi galw ar brifysgolion i barhau i ddysgu ar-lein tan fis Medi, ac ad-dalu ffioedd dysgu a chostau llety yn rhannol.
Dywedodd Dr Simon Williams o Brifysgol Caerdydd ei bod yn "anodd darogan" pryd y byddai'n ddiogel i fyfyrwyr ddychwelyd i'r campws.
Ychwanegodd y dylai llywodraethau Cymru a'r DU "ysgwyddo'r baich ariannol yma".
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai myfyrwyr yn dychwelyd pan y bydd yn ddiogel i wneud hynny, ac yn ôl Llywodraeth y DU fe fyddan nhw'n dychwelyd "cyn gynted â phosib".
'Mor ddifrifol â'r don gyntaf'
Wrth ysgrifennu ym mhapur newydd y Times, dywedodd Dr Williams bod y sefyllfa ynghylch Covid ar hyn o bryd "o leiaf mor ddifrifol" ag yr oedd yn ystod ton gynta'r pandemig, pan roedd prifysgolion ar gau yn llwyr.
Hyd yn oed os byddai nifer yr achosion a'r rhif R yn gostwng mae'n debyg y byddai "campysau yn gweld achosion dros yr wythnosau ac efallai misoedd wedi hynny".
"Byddai hynny'n arwain at fyfyrwyr yn gorfod hunan-ynysu am gyfnodau, cael eu cyhuddo'n annheg o dorri rheolau neu hyd yn oed gael eu cau i mewn," meddai.
Yn ei erthygl mae Dr Williams - sy'n uwch-ddarlithydd mewn pobl a threfn - yn dadlau nad yw profion torfol yn "fwled hud".
"Fe ddylen ni wneud y penderfyniad nawr i gau prifysgolion tan ddiwedd y flwyddyn academaidd hon," meddai, gan ychwanegu y byddai'n "her logisteg i lawer o gyrsiau a phrifysgolion i lwyddo i ddysgu wyneb-yn-wyneb mewn dosbarthiadau gyda phellter cymdeithasol".
Dywedodd hefyd y dylai myfyrwyr gael eu digolledu, ac y byddai hynny'n cael ei ystyried fel "symbyliad ariannol i aros adre".
Daeth ei sylwadau yn dilyn ymgyrchoedd mewn rhai prifysgolion sy'n dweud na ddylai myfyrwyr "gael eu cosbi" am ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru".
Mae rhai o brifysgolion Cymru wedi cynnig ad-daliad i fyfyrwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae dysgu wyneb-yn-wyneb yn rhan werthfawr o addysg uwch ac fe ddylai fedru parhau i'r mwyafrif o fyfyrwyr unwaith y bydd y cyngor iechyd cyhoeddus yn dweud ei fod yn ddiogel i wneud hynny.
"Rydym yn parhau i weithio gyda'n prifysgolion i sicrhau y bydd myfyrwyr yn medru dychwelyd i'r campws yn ddiogel, gan gynnwys cefnogi profion llif cyflym i fyfyrwyr ac i staff."
Ychwanegodd Llywodraeth y DU ei bod yn annog prifysgolion i adolygu eu polisïau llety er mwyn sicrhau eu bod yn deg ar ddisgyblion.
"Bydd y llywodraeth yn parhau i flaenoriaethu dychwelyd yn llawn cyn gynted â phosib," meddai llefarydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2021