Gareth Bennett ddim yn ymgeisydd Abolish the Assembly
- Cyhoeddwyd
Ni fydd Gareth Bennett yn ymgeisio ar ran Plaid Diddymu Cynulliad Cymru (ATWAP) yn etholiadau'r Senedd, er iddo ymuno â'r blaid haf diwethaf.
Bydd yn ymgyrchu yn hytrach fel ymgeisydd annibynnol yn etholaeth Cwm Cynon.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid bod y penderfyniad wedi ei wneud ar y cyd. Does dim eglurhad pellach hyd yn hyn.
Cafodd y gwleidydd dadleuol ei ethol i'r Senedd yn 2016 fel aelod o UKIP, ac fe arweiniodd grŵp y blaid yno am gyfnod byr.
Dywedodd llefarydd ar ran ATWAP: "Penderfynwyd ar y cyd na fydd Gareth yn sefyll ar ran y blaid a bydd yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol.
"Dywedodd ei fod yn parhau i gefnogi amcan y blaid ac mae'n dymuno'n dda i ni, fel rydym ni'n dymuno'n dda iddo yntau."
Cafodd Mr Bennett ei ethol fel cynrychiolydd UKIP yn rhanbarth Canol De Cymru ym Mai 2016, er galwadau i'w ddad-ddethol oherwydd sylwadau ganddo ynghylch mewnfudwyr o ddwyrain Ewrop.
Wedi anghytuno o fewn UKIP enillodd yr arweinyddiaeth yn 2018 gan ddadlau o blaid dileu datganoli.
Parodd yn arweinydd grŵp UKIP yn y Senedd a lai na blwyddyn wedi i aelodau adael i ymuno â Phlaid Brexit.
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
BLOG VAUGHAN RODERICK: Faint o obaith sydd gan y pleidiau llai?
PODLEDIAD: Llond bol o bleidleisio?
Wedi cyfnod fel aelod annibynnol ymunodd gyda Phlaid Diddymu Cynulliad Cymru yn Mehefin 2020.
Yn 2019 fe'i cafwyd yn euog o wneud fideo oedd yn amharchus tuag at yr AS Llafur Joyce Watson.
Cafodd ei wahardd o'r Senedd am wythnos fel cosb.
Flwyddyn cyn hynny fe wnaeth ymchwiliad ganfod bod Mr Bennett wedi gwario bron £10,000 ar swyddfa oedd heb ei archwilio ac yn erbyn cyngor cyfreithiwr.
Mae'r ymgeiswyr eraill yn etholaeth Cwm Cynon yn cynnwys:
Geraint Benney, Plaid Cymru
Gerald Francis, Democratiaid Rhyddfrydol
Peter Hopkins, Reform UK
Vikki Howells, Y Blaid Lafur
Mia Rees, Y Blaid Geidwadol