Dedfrydu giang a gludodd gyffuriau mewn bocsys melysion
- Cyhoeddwyd

Darnau o dystiolaeth yn cynnwys pecynnau Tic Tac yr oedd y ginag yn eu defnyddio i gario cyffuriau
Mae 12 aelod o giang cyffuriau wedi cael eu carcharu am gyfanswm o 50 mlynedd, yn dilyn ymchwiliad pum mis gan Heddlu Gogledd Cymru.
Yn dilyn achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug, derbyniodd aelod arall o'r grŵp ddedfryd wedi'i gohirio.
Roedd y criw, dan arweiniad Richard Griffiths, yn cyflenwi cyffuriau Dosbarth A yn ardal Wrecsam.
Roedd y giang yn storio cyffuriau mewn lleoliadau gwledig, ac yn eu cario o le i le mewn bocsys y melysion Tic Tac.

Ch-Dd: Adrian Brindley, Aled Roberts, Blake Lloyd Roberts, Dwayne Pritchard, Gemma Pearce, Glyn Edwards, Jayne Pritchard, John Luke Griffiths, Ryan Philip Edwards, Sion Alaw Griffiths, Stuart Thomas Clarke, a Thomas Faulds
Ar gyhuddiad o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau Dosbarth A carcharwyd:
Richard Griffiths am 6 mlynedd 8 mis;
Sion Griffith 5 mlynedd 7 mis;
Glyn Edwards 5 mlynedd 4 mis;
John Luke Griffiths 5mlynedd 2 fis;
Thomas Foulds 5 mlynedd 1 mis;
Stuart Clarke 4 blynedd 8 mis;
Blake Roberts 4 blynedd 6 mis;
Jayne Pritchard 2 flynedd 9 mis;
Aled Roberts 2flynedd 8 mis;
Adrian Brindley 2flynedd 4 mis.
Ar gyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth A derbyniodd Ryan Edwards a Dwayne Pritchard ddedfryd o 2flynedd 4 mis yr un o garchar.
Am fod yn aelod o grŵp troseddol cafodd Gemma Clarke ddedfryd o flwyddyn o garchar wedi'i gohirio am 18 mis.

Dywedwyd mai Richard Griffiths oedd arweinydd y grŵp
Yn dilyn y dyfarniad dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Hughes bod y giang "yn drefnus a soffistigedig".
"Roedd hyn yn cyflwyno nifer o drafferthion i'r ymchwiliad, yr wyf yn falch o ddweud ein bod wedi dod drostynt drwy waith caled, cyson a pharhaus," meddai.
"Rwyf wrth fy modd hefo'r dedfrydau gan fod hyn yn dangos ein bod fel llu yn benderfynol o ddod â phobl sy'n dod â dioddefaint i drefi a phentrefi gogledd Cymru gerbron y llysoedd."