Morgannwg yn arwain o 205 yn Headingley

  • Cyhoeddwyd
Billy and Joe RootFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brodyr Billy a Joe Root yn wynebu ei gilydd wrth i Forgannwg herio Sir Efrog

Mae Morgannwg yn arwain o 205 o rediadau yn eu gêm yn erbyn Sir Efrog ym Mhencampwriaeth y Siroedd yn Headingley.

Cafodd y tîm cartref eu bowlio allan am 193 yn eu batiad cyntaf, gyda Michael Hogan, Dan Douthwaite, Callum Taylor a David Lloyd yn cael dwy wiced yr un i Forgannwg.

Yn gynharach yn y dydd roedd yr ymwelwyr wedi gorffen eu batiad cyntaf ar 330, gyda Timm van der Gugten yn sgorio 85 heb fod allan.

Ond fe gollodd Morgannwg bedair wiced yn eu hail fatiad cyn diwedd y chwarae, gan orffen ar 68-4 yn symud ymlaen i'r trydydd diwrnod o chwarae ddydd Sadwrn.

Pynciau cysylltiedig