Protestwyr yn galw am ailagor campfeydd ynghynt

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Protest

Mae tua 300 o bobl wedi cymryd rhan mewn protest yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yn galw am ailagor campfeydd yn gynt yng Nghymru.

Mae'r dyddiad ar gyfer ailagor gwasanaethau o'r fath eisoes wedi cael ei symud o 10 Mai i 3 Mai, ond mae'r protestwyr yn galw am eu hailagor ddydd Llun.

Ychwanegon nhw fod Cymru'n wynebu "ton" o broblemau iechyd meddwl a gordewdra am fod campfeydd a chanolfannau hamdden ynghau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud trwy gydol y pandemig ei fod yn dilyn cyngor gwyddonol ar lacio cyfyngiadau.

Dywedodd ei fod wedi symud y dyddiad agor i gampfeydd wythnos ynghynt oherwydd bod cyfraddau Covid-19 wedi gostwng yn gynt na'r disgwyl.

Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod campfeydd yn allweddol i iechyd y cyhoedd

Fe wnaeth y gwrthbleidiau groesawu penderfyniad y llywodraeth yr wythnos hon, ond mae'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru wedi galw am ailagor campfeydd ynghynt na 3 Mai.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi pwysleisio pwysigrwydd cadw at y rheolau.

Roedd perchnogion campfeydd wedi beirniadu'r penderfyniad i beidio gadael iddyn nhw ailagor fel rhan o'r cyfyngiadau nesaf i gael eu llacio ddydd Llun.

Mae ymgyrchwyr yn dweud bod gordewdra yn un o'r ychydig ffactorau all pobl fynd i'r afael ag ef er mwyn lleihau'r risg o fynd yn ddifrifol wael gyda Covid-19.

Maen nhw'n dweud y dylai campfeydd gael ailagor ar 12 Ebrill - sef yr un dyddiad y bydd salonau harddwch a siopau sydd ddim yn hanfodol yn gallu agor eu drysau.