UKIP yn addo refferendwm ar fodolaeth y Senedd 'ar unwaith'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
UKIP rosetteFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd UKIP saith sedd yn etholiadau diwethaf y Senedd

Byddai UKIP yn cynnal refferendwm ar ddileu Senedd Cymru pe baen nhw'n ennill yr etholiad ar 6 Mai.

Mae maniffesto'r blaid hefyd yn addo cael gwared ar fesurau i helpu ceiswyr lloches, rhoi terfyn ar y gwaharddiad taro plant ac atal addysg rhyw mewn ysgolion cynradd.

Yn ôl arweinydd UKIP, Neil Hamilton, dyma'r maniffesto dewraf erioed.

Yn etholiadau diwethaf y Senedd, enillodd UKIP saith sedd, ond dim ond Neil Hamilton sy'n dal i fod yn y blaid.

Fe fydd y maniffesto yn cael ei lansio ar Facebook fore dydd Mawrth.

Dywed y blaid y byddan nhw'n cynnal refferendwm ar fodolaeth Senedd Cymru "ar unwaith".

Maen nhw hefyd am weld etholiadau yn cael eu cynnal ar gyfer dewis aelodau o'r byrddau iechyd yng Nghymru.

"Drwy drosglwyddo pwerau oddi wrth wleidyddion a'u rhoi yn uniongyrchol i'r bobl, mae hwn yn faniffesto sy'n ddibynnol ar bŵer y bobl," meddai Mr Hamilton.

Top
Bottom

Mae'n dweud y byddai'r blaid yn dod â chynllun Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru, sy'n helpu i gefnogi ceiswyr lloches a ffoaduriaid, i ben.

Mae eu polisïau eraill yn cynnwys:

  • Dileu Treth Ar Werth ar alcohol sy'n cael ei werthu mewn lle trwyddedig;

  • Dileu deddfau sy'n gwneud hi'n ofynnol i gynghorau ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg;

  • Caniatáu i rieni dynnu eu plant o wersi Cymraeg ar ôl iddyn nhw gyrraedd 14 oed;

  • Dileu'r ddeddf sy'n gwahardd taro plant;

  • Atal addysg rhyw mewn ysgolion cynradd;

  • Codi'r gwaharddiad ar ysmygu mewn tafarnau, gan roi'r hawl i landlordiaid ganiatáu ysmygu mewn ystafelloedd wedi'u awyru.

Dywedodd UKIP hefyd y byddan nhw'n rhewi trethi busnes am 12 mis a chreu cronfa adnewyddu gwerth £100m i'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.