Effaith ail gartrefi i 'ddwysáu' wedi Covid a Brexit

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Trefdraeth

Mae effaith ail gartrefi ar rhai o gymunedau Cymru yn debygol o ddwysáu yn sgil effaith Covid-19 a'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dyna farn un ysgolhaig o Brifysgol Abertawe sydd wedi paratoi adroddiad ar sut i ymdrin ag ail gartrefi, ar drothwy etholiadau'r Senedd.

Mae'n debygol o fod yn bwnc llosg mewn rhai o etholaethau glannau gorllewin Cymru.

Mae Dr Simon Brooks wedi cyflwyno 12 o argymhellion i Lywodraeth Cymru: "Mae'n rhaid i ni roi grymoedd mewn dau faes sef cynllunio a threthiannol, a dwi'n gwneud nifer o argymhellion o ran hynny, a'i ffocysu nhw ar gymunedau penodol, dwi'n dadlau hynny.

"Felly, edrych ar y dreth Trafodiadau Tir, ond nid ymhob rhan o Gymru, a'r un fath o ran deddfwriaeth gynllunio."

'Mae'n rhaid cael balans'

Am y tro cyntaf, mae nifer o'r pleidiau gwleidyddol wedi cynnig syniadau ar sut i ymdrin gydag effaith ail gartrefi ar gymunedau glan môr a gwledig.

Yn Sir Benfro, mae prisiau tai wedi cynyddu 5.8% yn ystod y 12 mis diwethaf, a thŷ ar gyfartaledd yn costio £219,581 - sy'n uwch na'r cyfartaledd ar draws Cymru.

Ar draws Sir Benfro mae 4,000 o ail gartrefi, gyda rhyw 180 wedi eu lleoli yn Nhrefdraeth, gyda nifer yn eiddo i Gymry ynghyd â pherchnogion o dros Glawdd Offa.

Mae'r cyngor sir yn codi premiwm o 50% ar filiau treth y cyngor ar gyfer perchnogion ail gartrefi ar hyn o bryd.

Lowri Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gantores Lowri Evans bod yn rhaid "cael balans rhwng y bobl leol yn cael bywyd da a medru byw yn y gymuned"

Magwyd y gantores, Lowri Evans yn lleol. Llwyddodd hi i brynu hen dŷ cyngor yn y dref gyda'i phartner Lee, am fod yna amod bod rhaid gwerthu'r tŷ i rywun oedd yn byw ac yn gweithio'n lleol.

Mae hi'n cefnogi'r syniad o gynyddu treth y cyngor i berchnogion ail gartrefi: "Mae'n rhaid cael balans rhwng y bobl leol yn cael bywyd da a medru byw yn y gymuned.

"Ond yn Nhu'drath, i lot o bobl, twristiaeth yw eu bywoliaeth nhw.

"Fi'n credu mae codi treth, fi'n credu mae hwnna yn mynd i helpu ond mae yna loophole bod tai ail gartrefi yn medru dod mas o hwnna os maen nhw'n dweud bod nhw'n fusnes. Mae eisiau edrych ar hwnna hefyd."

Ifan Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ifan Phillips, prentis trydanwr o ardal Crymych, y bydd hi'n "flynydde mowr" cyn iddo allu fforddio prynu tŷ yn yr ardal

Nid nepell o Drefdraeth, mae Ifan Phillips yn brentis trydanwr 20 oed yn ardal Crymych. Mae'n dweud fod y prisiau lleol allan o gyrraedd pobl ifanc yr ardal.

"Bydd e'n blynydde mowr, dwi'n credu, cyn bod fi'n gallu mynd i brynu tŷ yn yr ardal 'ma, achos yn yr ardal 'ma dwi'n eisiau byw, dyma fy nghynefin i.

"Y ffordd mae hi'n mynd, dim ond pobl o bant sydd yn gallu fforddio y tai 'ma, a dyw e ddim yn rhoi cyfle i bobl ifanc aros 'ma."

Mae'n dweud y byddai'n cefnogi codi mwy o bris ar dai ar gyfer y rheiny sydd am brynu ail gartref.

Brexit a Covid

Yn ôl Dr Simon Brooks, mae disgwyl i'r pwysau ar gymunedau i gynyddu dros y blynyddoedd nesaf yn sgil y coronafeirws a'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.

"O ran Covid, mi fydd pobl eisiau gadael y dinasoedd ac mae yna bosibilrwydd hefyd y bydd patrymau gweithio yn newid.

"Felly, gewch chi sefyllfa lle mae rhywun yn gallu gweithio penwythnos hir yng Nghymru, ac mae'n gwneud perchnogaeth o dŷ haf yn llawer mwy tebygol oherwydd hynny."

Ychwanegodd: "Mae yna 70,000 o ail gartrefi sydd ym mherchnogaeth Prydeinwyr ar y cyfandir, a dwi'n ofni dros amser y bydd y farchnad yma yn symud i wledydd Prydain, ac yn anochel y bydd rhai o'r ail gartrefi yna yn dod i Gymru."

Wyn Harries
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y syrfëwr Wyn Harries mai "gwendid polisïau" sydd wedi achosi'r broblem

Mae'r syrfëwr Wyn Harries, sydd wedi ei fagu yn lleol, yn gweld taw gwendid yr economi leol sydd yn gyfrifol am nifer y tai haf yn ardal Trefdraeth.

"Gwendid polisïau sydd wedi achosi'r broblem sydd 'da ni. Mae prinder safleoedd adeiladu tai. 'Sdim tir yn cael ei ryddhau", meddai.

"Mewn unrhyw farchnad, os chi'n gwasgu un pen, mae'r pris yn codi y pen arall, a dyna beth sydd yn digwydd.

"Yr ail bwynt yw, 'sdim y swyddi i gael gyda ni yng ngorllewin Cymru, oedd gyda ni, sydd yn talu digon da i gallu fforddio'r tai yma."

Linebreak

Beth ydy barn y pleidiau?

Mae Llafur yn dweud y byddai'n codi 1% ychwanegol o dreth wrth brynu ail gartref, ac y byddan nhw'n codi 20,000 o dai cymdeithasol i'w rhentu.

Mwy o dai yw'r ateb yn ôl y Ceidwadwyr, maen nhw'n addo codi 100,000 o gartrefi newydd a chael gwared ar y dreth Trafodion Tir ar gyfer prynwyr tro cyntaf

Mae Plaid Cymru'n dweud y byddan nhw'n ystyried treblu treth y cyngor ar gyfer ail gartrefi a gosod uchafswm ar nifer y tai haf.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol y byddan nhw'n deddfu i sicrhau bod cynghorau'n medru codi'r dreth uchaf bosib ar ail gartrefi, a chael gwared ar yr hawl i'w dynodi fel busnesau.