Diwydiannau de Cymru yn uno i ddileu allyriadau CO2
- Cyhoeddwyd
Mae diwydiannau mawrion de Cymru wedi uno i geisio canfod ffyrdd i ddileu eu hallyriadau carbon ymhen 20 mlynedd.
Mae'n "her enfawr" ond fe allai ddiogelu degau o filoedd o swyddi tra'n creu llawer mwy, medden nhw.
Mae rhanbarth de Cymru yn ail ar y rhestr o ardaloedd ar draws y DU sy'n cynhyrchu'r nifer uchaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr o ddiwydiant.
Felly mae unrhyw obaith i Gymru yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd erbyn 2050 yn dibynnu'n helaeth ar yr ymdrech hon.
Mae gweithfeydd dur, sment, a chemegion ymysg y rhai fydd yn gweithio gyda chwmnïau ynni mawr, porthladdoedd, prifysgolion ac awdurdodau lleol ar y prosiect gwerth £40m i ddod o hyd i "lwybr at ddyfodol sero-net" i ddiwydiant yn y de.
Bydd hyn yn eu helpu i weld ble mae angen adnoddau ac isadeiledd i alluogi busnesau i symud at ffordd fwy gwyrdd o weithio.
Mae'n debygol o arwain at fwy o gynlluniau ynni adnewyddadwy, a thwf mewn cynhyrchu hydrogen fel tanwydd glân.
Bydd ymchwiliadau peirianyddol yn canolbwyntio hefyd ar dechnolegau dal a storio carbon mewn safleoedd lle ystyrir ei bod yn amhosib peidio â chynhyrchu CO2 o gwbl.
Yn ôl trefnwyr y cynllun fe allai hyn arwain at ddiwydiant newydd i gludo CO2 ar longau o borthladdoedd de Cymru, i'w gladdu dan wely Môr y Gogledd.
Cwmnïau yn cyflogi dros 100,000 o bobl
Brwydro yn erbyn newid hinsawdd yw'r nod ond mae'r gwaith cymhleth o ad-drefnu diwydiant trwm de Cymru yn allweddol i'r llwyddiant.
Mae'r cwmnïau sydd ynghlwm â Chlwstwr Diwydiannol De Cymru (SWIC) - sef enw'r prosiect - yn cyflogi dros 100,000 o bobl ar y cyd.
Wrth i ardaloedd eraill o'r DU fwrw ati i greu cynlluniau i ddatgarboneiddio, y pryder yw y gallai rhai busnesau ddewis adleoli.
Dr Chris Williams yw pennaeth datgarboneiddio diwydiannol ar gyfer Diwydiant Cymru, a fe sy'n arwain SWIC gan ddisgrifio effaith posib y prosiect fel un "enfawr".
"Mae mor bwysig i ni yn ne Cymru ein bod ni'n trio cadw ein diwydiannau ac yn gweithio mor gyflym ag y gallwn ni i ddod o hyd i lwybr tuag at ddatgarboneiddio," meddai.
"Os nad ydyn ni'n datblygu'r isadeiledd sero net sydd ei angen ar y diwydiannau yma yna mae 'na risg go iawn y gwnawn ni eu colli nhw i'r rhanbarthau sydd yn gweithredu."
Fe fydd pob busnes yn wynebu ei opsiynau a'i heriau ei hun o ran gostwng allyriadau, eglurodd - a hyn yn bennaf oherwydd lleoliad daearyddol a'r adnoddau sydd gerllaw.
"Drwy weithio fel grŵp mae gennym ni'r gallu i ddiffinio'r isadeiledd rhanbarthol yn haws a cheisio gwneud yn siŵr ei fod yn darparu be' mae pob diwydiant unigol ei angen i ddatgarboneiddio."
'Gwynt a thonnau yn creu cyfleon'
Mae mapio'r cyfleoedd ar gyfer mwy o ffynonellau ynni glân gan ddefnyddio gwynt, tonnau a llanw'r môr yn un rhan o'r cynllun.
Byddai unrhyw drydan sydd dros ben yn gallu cael ei ddefnyddio hefyd i gynhyrchu tanwydd hydrogen ar gyfer darparu gwres a thrafnidiaeth heb allyriadau.
Mae Aberdaugleddau yn cael ei weld fel "porth hydrogen" ar gyfer y DU ac mae "hwb hydrogen" eisoes yn cael ei sefydlu ar Ynys Môn, yn gysylltiedig â phrosiectau ynni morol yno.
Dywedodd Jessica Hooper, Rheolwr Ynni Morol Cymru y gallai prosiectau ynni cynaliadwy gael eu sefydlu'n gyflym os ydy'r galw gan ddiwydiant yn cael ei gysylltu ag adnoddau naturiol Môr yr Iwerydd - gan leihau'r ddibyniaeth ar fewnforio nwy ac olew.
"Mae ynni gwynt, tonnau a llanw wir yn darparu cyfle anhygoel ar gyfer datgarboneiddio cynaliadwy - gan droi ein diwydiannau trwm yn brosiectau fyddai'n arloesi ac y gallai ddangos esiampl i weddill y byd," meddai.
"Unwaith mae hydrogen yn cael ei gyflenwi i ddiwydiannau mawrion, fe allai cartrefi cyfagos fod ymysg y cynta' i elwa hefyd," eglurodd Sarah Williams, Cyfarwyddwr Rheoleiddio Wales & West Utilities, sy'n gyfrifol am rwydwaith nwy y rhanbarth.
Mae 85% o gartrefi yn defnyddio nwy naturiol, sy'n arwain at allyriadau carbon, ar gyfer eu dŵr poeth a systemau gwresogi ar hyn o bryd.
"Yr hyn sy'n grêt yw os allwn ni ddarparu hydrogen i ddiwydiant fe allwn ni ddechrau meddwl am ei gael e i gartrefi cwsmeriaid hefyd," meddai.
Mae pibellau newydd ar gyfer y newid eisoes yn cael eu gosod, eglurodd, gan ddisgrifio'r degawdau nesaf fel rhai "hynod o gyffrous".
Yn y cyfamser, ym mhurfa nicel Vale yng Nghlydach, mae prosiect peilot gyda Phrifysgol Abertawe eisoes ar y gweill i geisio troi'r carbon deuocsid a gynhyrchir gan y safle yn adnoddau defnyddiol - fel lliwiau ar gyfer losin, tabledi meddyginiaeth a cholur.
Mae rhesi o diwbiau dau fetr a hanner o hyd, wedi'u llenwi â dŵr, wedi'u gosod mewn polydwnelau mawr ar y safle. Bydd CO2, a fyddai fel arall yn cael ei ollwng i'r awyr gan y burfa, yn cael ei bwmpio drwyddynt i dyfu gwahanol fathau o ficroalgae y gellir wedyn eu troi'n liwiau a phroteinau gwerth uchel.
"Mae'n enghraifft dda iawn o symbiosis diwydiannol," meddai Andrew Price, o gwmni ymgynghori CR Plus - sy'n cydlynu cam cynllunio prosiect SWIC.
"Drwy gydol y cynllun byddwn yn ffocysu ar ddwy elfen - sut mae'r safleoedd hyn yn datgarboneiddio i'r graddau llawnaf o dan eu cyfyngiadau economaidd presennol ac yna sut mae datblygu'r seilwaith i gefnogi'r gwaith o amsugno'r CO2 sy'n weddill.
"Mae'n her enfawr ac yn un nad oes neb wedi ceisio ei wneud o'r blaen ond rwy'n credu ei bod yn un y gallwn ei chyflawni drwy ddibynnu ar brofiad yr holl wahanol sectorau."
Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid cyfatebol o gronfa Her Datgarboneiddio Diwydiant Llywodraeth y DU - a bydd disgwyl iddo gyflwyno cynllun gweithredu ymhen tair blynedd.
Ar hyn o bryd mae diwydiannau de Cymru'n cynhyrchu oddeutu 16 miliwn tunnell o CO2 y flwyddyn, gan olygu bod y rhanbarth yn ail i Humberside o ran yr ardaloedd â'r lefelau ucha o allyriadau o ddiwydiant ar draws y DU.
Mae llywodraethau San Steffan a Chaerdydd eisoes wedi ymrwymo i dargedau "sero net" cyfreithiol erbyn 2050 - i bob pwrpas, 100% o doriad mewn allyriadau CO2.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020