Ateb y Galw: Y gantores Casi Wyn

  • Cyhoeddwyd
Casi WynFfynhonnell y llun, Casi Wyn

Y gantores Casi Wyn sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Lisa Eurgain Taylor yr wythnos diwethaf.

Mae Casi yn gantores-gyfansoddwraig o ardal Gwynedd ac yn gweithio ym myd theatr byw, pop a ffilm.

line

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd ger y bont ym Mhentrefoelas yn gwylio dŵr yr afon gyda Nain Glasfryn.

Pwy oeddet ti'n ei ffansïo pan yn iau?

Christina Aguilera yn ei fideo gerddoriaeth ar gyfer Dirrty.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

Bosib y baswn i wedi dod 'mlaen yn dda gyda Alexander McQueen. Roedd o'n fy nharo fel rhywun addfwyn a thanllyd ar yr un pryd.

Naomi Campbell ac Alexander McQueenFfynhonnell y llun, Dave M. Benett
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alexander McQueen yn ddylunydd ffasiwn byd-enwog. Bu farw yn 2010, ond mae ei label dillad yn parhau

Beth yw dy hoff gân a pham?

Amhosib dewis un ond mae May I Have This Dance gan Francis and The Lights a Chance yn eu plith. Anthem rhyddid ac yn drac sain i ddeufis o weithio'n ysgrifennu yng Nghali(ffornia).

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Sgrolio.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cyfeillgar, didwyll a meddylgar.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Nid cywilydd ond swildod a nerfusrwydd wrth mi orfod cusanu ar sgrin am y tro cyntaf tra'n ffilmio cyfres ddrama Porthpenwaig yn ystod f'arddegau!

PorthpenwaigFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Porthpenwaig yn gyfres ar S4C yn 2015, a oedd wedi ei lleoli mewn pentref glan môr ym Mhen Llŷn

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Dweud diolch, cyn agor y siampên.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Mi wyliais Ammonite yn ddiweddar, mae ffilmiau Francis Lee yn drylwyr a hardd.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Bangor Uchaf. Mi fynychais Ysgol Tryfan a dwi'n cysylltu Bangor Uchaf gyda chyfnod cyffrous y Chweched Dosbarth.

line

O archif Ateb y Galw:

line

Dyweda rhywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi wrthi'n datblygu darn theatr newydd wedi ei ysbrydoli gan y syniad o annibyniaeth i Gymru gyda Gethin Evans, Eddie Ladd, Steffan Donnelly a Lemfreck - ymhlith llu o leisiau eraill.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Parti fy ffrindiau Madlen Ceirios a Stel Farrar yng nghrombil Dinorwig.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Lady Gaga - caru ei hegni a'i chryfder.

Lady GagaFfynhonnell y llun, Karwai Tang
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gantores Lady Gaga wedi profi llwyddiant aruthrol ers rhyddhau ei halbwm cyntaf yn 2007

Pwy wyt ti'n ei enwebu?

Stel Farrar

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw