Dem. Rhydd. yn addo bysiau a threnau am ddim i bobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Person ifanc ar drênFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r Democratiaid Rhyddrydol yn cynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi addo teithiau bysys a threnau am ddim i bobl o dan 25 oed erbyn 2025 yn eu maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd.

Ymhlith eu cynlluniau mae codi 30,000 o gartrefi cymdeithasol newydd i'w rhentu a chronfa flynyddol gwerth £500m ar gyfer y stryd fawr a chanol trefi.

Dywed arweinydd y blaid, Jane Dodds y bydd y blaid yn canolbwyntio ar adferiad o Covid a newid hinsawdd.

"Allwn ni ddim fforddio i unrhyw blaid neu unrhyw lywodraeth roi blaenoriaeth i ddim byd arall heblaw yr adferiad o Covid," meddai.

Un sedd mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn ei hamddiffyn yn yr etholiad ar 6 Mai - allan o 60 yn Senedd Cymru.

Roedd ei hunig aelod yn y Senedd, Kirsty Williams, yn ran o lywodraeth y Blaid Lafur gan weithredu fel y gweinidog addysg.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jane Dodds na ddylai pleidiau ganolbwyntio ar unrhyw beth oni bai am adfer o'r pandemig

Dywedodd y blaid y byddai cynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed yn "rhan o'n cynllun i roi'r cyfleoedd gorau i'r genhedlaeth nesaf".

Ychwanegodd y byddai'n buddsoddi £1bn y flwyddyn i "fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd", gyda chynlluniau fel gwella inswleiddio mewn cartrefi, torri biliau ynni a buddsoddi mewn trafnidiaeth sy'n well i'r amgylchedd.

Fe fyddai'r gronfa £500m yn buddsoddi mewn canol trefi dros gyfnod o bum mlynedd, gyda'r nod o ddileu digartrefedd hefyd.

Byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn rhewi cyfraddau busnes am bum mlynedd, gyda'r nod o gael gwared arnyn nhw'n llwyr "yn y tymor hir".

Mae addewidion eraill yn cynnwys:

  • Pasio Deddf Addysg Gymraeg i Bawb, gyda'r nod o normaleiddio defnydd o'r iaith mewn ysgolion;

  • Adnewyddu cartrefi hŷn i'w gwneud yn fwy effeithlon o ran eu defnydd o ynni;

  • Cynyddu'r gwariant ar iechyd meddwl nes iddo gyrraedd 13% o holl wariant y GIG erbyn 2028;

  • Pasio Deddf Aer Glân, a gwario 10% o gyllideb trafnidiaeth y wlad ar lwybrau cerdded a seiclo;

  • Sicrhau bod 90% o gartrefi a busnesau Cymru yn gallu cael band eang ffeibr llawn erbyn 2026.

Mae'r blaid hefyd yn addo na fyddai ffermwyr yn derbyn "ceiniog yn llai" o ganlyniad i Brexit, ac y byddai arian i gymryd lle yr hyn oedd yn arfer dod gan yr Undeb Ewropeaidd.

"Mae Cymru wedi cyrraedd trobwynt nawr, a nawr yw'r amser i ni benderfynu sut i symud ymlaen o Covid a sut ydyn ni eisiau i Gymru edrych mewn pum mlynedd," meddai Ms Dodds.

"Byddai blaenoriaethu unrhyw beth arall yn wirion."