Etholiad 2021: Manylion annibyniaeth 'ddim yn bosibl eto'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Adam PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Adam Price: Rhaid i ni symud ymlaen o'r holl ddadlau am Brexit

Dim ond os bydd Plaid Cymru yn ennill etholiadau'r Senedd mis nesaf y gall hi fynd i'r afael â gwneud "gwaith manwl" ar annibyniaeth, yn ôl arweinydd y blaid.

Mae Plaid Cymru wedi addo cynnal refferendwm ar annibyniaeth o fewn y pum mlynedd nesaf os mai hi fydd yn creu Llywodraeth wedi'r etholiad ar Mai 6.

Dywedodd Adam Price nad yw'n bosib rhoi manylion pendant am yr arian cyfred y byddai Cymru yn ei ddefnyddio a sut y byddai'r ffin yn gweithredu tra bod Plaid Cymru yn wrthblaid.

"Gallwch chi ond gwneud y gwaith manwl yma pan ydych chi mewn llywodraeth," meddai.

Fe wnaeth Mr Price y sylwadau yn rhaglen gyntaf 'Ask the Leader' BBC Cymru.

Mae Plaid Cymru yn addo Comisiwn Cenedlaethol i "sicrhau'r ymwybyddiaeth, cyfranogiad a'r ymglymiad mwyaf" mewn refferendwm annibyniaeth o fewn tymor nesaf y Senedd os yw'n ffurfio llywodraeth ar ôl 6 Mai.

Wrth siarad ar 'Ask the Leader', dywedodd Mr Price fod "cyfeiriad eang y blaid yn glir".

"Rydyn ni'n credu mewn Cymru annibynnol a fydd yn sicrhau dyfodol economaidd gwell i'n gwlad.

"O ran y manylion ar gwestiynau technegol, dim ond Comisiwn Cenedlaethol gyda'r arbenigedd a'r adnoddau y gall ateb hynny.

"Bydd y cwestiynau yma yn cael eu hateb yn y cyfnod cyn y refferendwm," meddai.

Top
Bottom

Wrth gael ei gwestiynu am ba arian cyfred y byddai Cymru yn ei ddefnyddio ac am sut y byddai'r ffin yn cael ei gweithredu, dywedodd Mr Price: "Gallwch ond wneud y gwaith manwl o fewn llywodraeth, ni allwch wneud hynny pan yn wrthblaid".

Ychwanegodd: "Beth wnaeth llywodraeth yr SNP pan gawson nhw eu hethol? Fe wnaethon nhw gyhoeddi Papur Gwyn. Dim ond tra bo chi mewn llywodraeth y gallwch chi wneud hynny.

"Bydd yr holl gwestiynau yma am ddyfodol economaidd Cymru ac ati, arian cyfred, a'r holl faterion hyn yn cael sylw gan waith manwl y Comisiwn - a byddai'r gwaith yn dechrau ar unwaith."

Mae etholiadau Senedd Cymru ddydd Iau Mai 6.