Ymchwiliad i dân angheuol yn Hwlffordd

  • Cyhoeddwyd
Crews at the sceneFfynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethu brys eu galw am 22:40 nos Lun

Mae'r heddlu a'r gwasanaeth tân yn ymchwilio i dân angheuol yn Hwlffordd, Sir Benfro.

Cafwyd hyd i gorff menyw ar y llawr gwaelod.

Bu'n rhaid gwagio tai cyfagos tra bod diffoddwyr yn ceisio rheoli'r tân nos Lun.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru nad oeddynt yn credu fod unrhyw un arall yn y tŷ ar y pryd.

Ffynhonnell y llun, Pembrokeshire Herald
Disgrifiad o’r llun,

Bu diffoddwyr ar y safle tan 02:00 fore Mawrth yn rheoli'r tân

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth swyddogion yr heddlu a'r gwasanaeth tân ddod nôl i'r adeilad ddydd Mawrth i ymchwilio i achos y tân

Cafodd criwiau o Hwlffordd, Aberdaugleddau ac Arberth eu galw am 22:40.

Mae'n debyg i'r tân ddechrau ar lawr gwaelod yr adeilad cyn ymledu i weddill y tŷ dau lawr yng Nghlôs Siskin.

Mae swyddogion arbenigol Heddlu Dyfed-Powys yn rhoi cymorth i deulu'r ddynes a fu farw, ac mae Swyddfa'r Crwner wedi cael gwybod.

Pynciau cysylltiedig