Y Blaid Gomiwnyddol eisiau sicrhau treth incwm leol
- Cyhoeddwyd
Mae'r Blaid Gomiwnyddol Gymreig yn galw am fwy o bwerau ac adnoddau i Senedd Cymru er mwyn herio "cyfalafiaeth busnesau mawr" ym Mhrydain.
Wrth lansio ei maniffesto ar gyfer etholiad Senedd Cymru dywedodd yr ysgrifennydd cyffredinol, Robert Griffiths, y byddai'r blaid yn ceisio ennill yn ôl y pwerau sydd wedi eu trosglwyddo o Gymru i weinidogion y DU yn sgil Brexit.
"Mae'n rhaid i Gymru gael y pwerau yn ôl os ydym am ddiogelu'r diwydiant dur yng Nghymru," meddai.
Bydd yr etholiad yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, 6 Mai.
Mae'r maniffesto 18 tudalen 'Grym Go Iawn i Bobl Cymru' yn dweud bod y blaid am ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael wedi i'r DU adael yr UE i wella'r amgylchedd a thrafnidiaeth gyhoeddus, hybu ynni adnewyddadwy, hybu busnesau lleol ac adeiladu mwy o dai cyngor a chymdeithasol.
"Mae Boris Johnson wedi defnyddio Brexit ac argyfwng Covid i ganoli pŵer ym Mhrydain - rhaid i'r grym yma gael ei drosglwyddo i Gymru os ydym am ddiogelu y diwydiant dur yng Nghymru drwy berchnogaeth gyhoeddus ac adeiladu economi werdd dechnolegol a chynaliadwy," meddai Mr Griffiths.
Mae'r maniffesto hefyd yn galw am fwy o ryddid benthyca i Gymru, ac yn nodi y dylai'r treth gyngor gael ei disodli gan dreth incwm leol a fyddai'n seiliedig "ar allu pawb i'w thalu".
Ymhlith polisïau iechyd y blaid mae newid y ffordd y mae meddygfeydd teulu yn gweithredu.
"Mae arnom angen gwasanaeth iechyd sylfaenol ym mhob ardal fydd yn gyfrifol am iechyd hirdymor y gymuned gyfan honno.
"Rhaid i'r prif ffactorau sy'n achosi afiechyd ym mhob cymuned gael eu hasesu a'u targedu'n lleol, boed yn fater o lety gwael, deiet gwael, neu ddiffyg mannau agored a chyfleusterau ymarfer corff di-dâl neu fforddiadwy," medd y maniffesto.
"Dylai partneriaethau iechyd sylfaenol ddod â meddygon teulu, y cyngor lleol a thrigolion yr ardal, cymdeithasau tai, ysgolion a gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol ynghyd i daclo afiechydon sydd wedi ymwreiddio ers cenedlaethau."
Mae ymgeiswyr y Blaid Gomiwnyddol Gymreig yn sefyll ar restr ym mhob un o'r pum rhanbarth a fydd yn ethol 20 o aelodau Senedd Cymru, gan ddefnyddio trefn cynrychiolaeth gyfrannol.
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd16 Ebrill 2021