Cyfyngiadau Covid: Yr her o ymgyrchu mewn etholiad

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gorsaf BleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgyrch Etholiad y Senedd 2021 wedi bod yn wahanol iawn i'r arfer wrth i gyfyngiadau Covid-19 rwystro nifer o'r defodau gwleidyddol arferol.

Dros y rhan fwyaf o'r ymgyrch doedd ymgeiswyr ddim yn cael curo drysau i geisio darbwyllo etholwyr.

Am gyfnod doedd ymgyrchwyr ddim yn cael dosbarthu taflenni yn y ffordd arferol.

Sut felly mae'r cyfyngiadau wedi dylanwadu a gorfodi'r pleidiau gwleidyddol i newid eu strategaethau?

Ymgyrchu ar-lein

Mae Zoom, Skype a Teams oll wedi dod yn rhan o'n bywydau bob dydd ac felly hefyd i wleidyddion.

Mae'r pleidiau gwleidyddol wedi gorfod buddsoddi mwy o amser a chyllid yn gwthio eu negeseuon ar wefannau cymdeithasol a hynny, yn ôl y Blaid Lafur yn bwysicach na'r arfer.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eluned Morgan, Llafur, fod y pleidiau wedi gorfod buddsoddi mwy o amser yn gwthio eu negeseuon ar wefannau cymdeithasol

"'Da ni wedi bod yn defnyddio systemau ar-lein ers tro nawr ond ry' ni wedi ceisio awgrymu i unrhyw un sy'n sefyll fod hwn yn ffordd eithaf da o dargedu pobl", meddai Eluned Morgan, ymgeisydd ar ran y blaid Lafur.

"Dylwn ni ddefnyddio pethau fel Facebook i dargedu y bobl, y bobl 'da ni angen eu darbwyllo ac ry' ni'n targedu rheiny.

"Mae'r systemau hyn yn gallu helpu hynny lot," meddai.

Tra bod targedu ar-lein yn cynnig rhai manteision mae rhai ymgeiswyr hefyd yn dweud nad yw'r drefn eleni wedi bod yn rhwydd.

Ffynhonnell y llun, Leena Farhat
Disgrifiad o’r llun,

Leena, sy'n gweithio i Brifysgol Glyndŵr, yn ymgyrchu

Yn ôl rhai a fu'n trafod gyda BBC Cymru, mae hi wedi bod yn anodd creu argraff ar rai etholwyr dros y ffôn.

"Dwi'n meddwl, o fod yn canfasio ffôn - mae o wedi bod yn mynd yn dda", meddai Leena Sarah Farhat, ymgeisydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol.

"Ond nid oedd llawer o bobl really yn joio. Rydym bob amser wedi canfasio ffôn ond ddim i'r eithaf hwn.

"Mae'r methods o ymgyrchu ar-lein yn bwysig," meddai.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Sylwer: Efallai y bydd etholiadau cynghorau plwyf neu is-etholiadau mewn cynghorau hefyd lle rydych chi, nad ydyn nhw wedi'u cynnwys fan hyn. Edrychwch ar wefan eich cyngor lleol am fanylion llawn. Diweddarwyd ddiwethaf: May 11, 2021, 12:35 GMT

Mae etholwyr wedi arfer derbyn nifer o daflenni gwleidyddol sy'n dangos yr arlwy o bolisïau y mae bob plaid yn eu cynnig.

Ond mewn cyfnod lle mae ymgysylltu wyneb yn wyneb wedi bod yn brin, mae 'na awgrym fod pwysigrwydd y taflenni hyn, eu negeseuon a'u gwerth, wedi codi'n aruthrol.

Ffynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Sioned Williams, Plaid Cymru: 'Diwyg y taflenni wedi dod yn fwy pwysig'

"Mae taflenni wastad yn rhan o bob ymgyrch", meddai Sioned Williams, un o ymgeiswyr Plaid Cymru.

"Ond falle bod cynnwys a diwyg y taflenni wedi dod yn fwy pwysig a bod na fwy o wybodaeth arnyn nhw na'r rhai syml sy'n cael eu dosbarthu.

"Mae Plaid Cymru wedi creu papurau sydd llawn gwybodaeth nid yn unig am yr ymgeiswyr ond am yr arweinydd, am y Comisiynwyr Heddlu a maen nhw'n esbonio datganoli a'r broses etholiadol yn fwy cyffredin - ambell beth felly wedi newid.

"Mae 'na bryder - ond dwi'n meddwl fyddwn ni gyd yn falch o gael mynd nôl allan a chanfasio yn y ffordd draddodiadol ond mae'n rhaid i'r broses fod yn un saff."

Gyda thwf sylweddol wedi bod mewn ymgyrchu ar lein, ymgyrchu ar y ffôn a thaflenni gwleidyddol mae 'na deimlad cyffredin ymysg ymgeiswyr bob plaid y bydd y canlyniad eleni yn anoddach i'w ddarogan a bod etholwyr hefyd yn gweld eisiau'r ymgysylltu wyneb yn wyneb.

Yn ôl Glyn Davies, Llywydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae'r cyfnod ymgyrchu wedi bod yn "rhwystredig".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Glyn Davies eisiau i aelodau'r grŵp Ceidwadol yn Senedd Cymru fod yn gyfrifol am ddewis eu harweinydd nesaf

"'Da ni ddim wedi gallu mynd o ddrws i ddrws ond ry' ni wedi gwneud gwaith ac mae'r gwirfoddolwyr wedi bod yn defnyddio'r ffôn."

"Mae llawer yn meddwl ei fod o'n well", meddai.

"Mae'n meddwl fod mwy yn gallu cysylltu nag o blaen ac mae pobl yn mwynhau o er i mi mae'n rhwystredig.

"Oherwydd 'da ni ddim yn cwrdd â phobl wyneb yn wyneb, da ni ddim yn gwybod beth maen nhw'n ei feddwl."

Mae Cymru felly ar groesffordd a thra bod yr ymgyrch gwleidyddol wedi bod yn wahanol iawn ar lawr gwlad yr un yw'r gofyn i bobl rhoi croes yn y blwch ar 6 Mai.

Pa ffordd eith hi - chi'r pleidleiswyr sydd yn penderfynu.