Galar teulu wedi marwolaeth mam i saith o blant
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu wedi cadarnhau mai Marie Bellingham, 46 oed a mam i saith o blant, fu farw yn dilyn tân mewn tŷ yn Hwlffordd, Sir Benfro, nos Lun.
Mae Heddlu Dyfed-Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin yn parhau i ymchwilio i achos yn tân yng Nghlôs Siskin.
Dywedodd ei theulu ei bod "yn fam gariadus i saith o fechgyn sydd wedi torri'u calon o golli eu mam".
"Mae'r bechgyn yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a'r caredigrwydd mae'r gymuned wedi ei ddangos yn ystod yr amser trist yma," meddai'r teulu mewn datganiad.
"Maent am ddiolch i bawb am hyn, yn ogystal â'r parch a'r preifatrwydd sydd wedi ei roi iddynt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2021