Cofio fy nghyfnither, Helen McCrory
- Cyhoeddwyd
Cafodd angladd yr actores Helen McCrory, a oedd yn enwog am ei gwaith mewn cyfresi teledu a ffilmiau Hollywood, ei gynnal ddydd Gwener.
Roedd gan Helen, a fu farw yn 52 oes o ganser ganol mis Ebrill, sawl cysylltiad â Chymru.
Ei chyfnither, ac un o newyddiadurwyr BBC Cymru Fyw, Sara Gibson, sy'n sôn am ei gwreiddiau Cymreig a'i hoffter o Gymru a'i phobl.
O Benuwch i Abertridwr, ac yn ddiweddarach Llandeilo a Sir Benfro, roedd gan Helen - fy ail-gyfnither ar ochr fy nhad - gysylltiadau â sawl man yng Nghymru.
Cymraes yw Mam Helen. Cafodd Anti Ann ei geni a'i magu yng Nghaerdydd, yn unig blentyn i fy Wncwl Rob (brawd Mamgu) ac Anti Marj. Nhw oedd cangen y de o'r teulu Morgan, a symudodd o Benuwch i Abertridwr yn 1930au'r ganrif ddiwethaf, er mwyn chwilio am waith, cyn wedyn symud i Gaerdydd. Roedd Wncwl Rob, Tadcu Helen, yn focsiwr proffesiynol, ac ar un adeg fe oedd pencampwr Cymru.
Mewn cyfweliadau yn y wasg fe ddisgrifiodd Helen ei bod hi, ei brawd Jonny a'i chwaer fach Cati wedi cael bywyd di-gynnwrf, cariadus pan yn blant, er iddyn nhw fyw mewn sawl gwlad dramor pan oedden nhw'n fach - Cameroon, Tanzania, Norwy a Ffrainc i enwi ond rhai. Roedd eu tad, Iain, yn ddiplomydd ac fe symudodd y teulu i sawl man cyn dychwelyd i'r Deyrnas Unedig.
Fy atgof cyntaf o gwrdd â Helen oedd pan oedd yn aros yn ystod gwyliau ysgol gyda'i thadcu a'i mamgu yng Nghaerdydd. Roedd hi wyth mlynedd yn hŷn na mi, felly bratiog yw'r atgof hwnnw, mond bo' fi'n cofio ei chlywed hi'n siarad gydag acen Saesnig gyfoethog, a finne braidd yn medru rhoi brawddeg at ei gilydd yn fy ail iaith.
Yn ystod ein hymweliadau â'r cartref hwnnw ar Manor Way, rwy'n cofio clywed Mam ac Anti Marj yn trafod bod Helen eisiau actio, a sut roedd hi'n gwneud yn "eithaf da" yn Llundain yn gynnar yn ei gyrfa. Doedd dim syniad ganddi hi, na ni, faint o seren y byddai hi maes o law.
Finne, 21 oed, yn ceisio celu fy edmygedd ohoni hi, ac yn yfed coffi er nad o'n i'n hoffi ei flas gan mai 'dyna oedd Helen yn ei wneud'."
Roeddwn innau'n rhannu'r un diddordeb â hi mewn actio pan oeddwn i'n 'fengach, ac wrth astudio drama ar gyfer Safon Uwch fe gawson ni'r cyfle i weld cynhyrchiad o ddrama gan Chekov, The Seagull, yn Llundain.
Dim ond wrth i ni fynd i mewn i'r theatr y sylweddolais fod Helen yn chwarae un o'r prif gymeriadau. Roeddwn wrth fy modd yn ei gweld yn perfformio!
Anfonais neges gydag un o'r tywyswyr i ddweud fy mod yn y theatr y noson honno, a daeth Helen i chwilio amdanaf ar y diwedd. Ond roedd ein bws wedi gadael am Gaerdydd. Yn fuan wedi hynny daeth y neges yn ôl at Mam a Dad ei bod wedi bod yn chwilio amdanaf, a'i bod yn ddrwg ganddi nad oedden ni wedi gallu gweld ein gilydd.
Roedd ein cyfarfyddiad nesaf yn llawer hapusach. Tua 1998 roedd yn rhaid i mi fynd i Lundain er mwyn cael fisa i deithio i Awstralia. Fe gyfarfon ni am goffi y tu allan i gaffi Ffrengig, gan roi'r byd yn ei le a thrafod ein coeden deulu.
Roedd gan Helen ddiddordeb gwirioneddol yn hanes ei theulu yng Nghymru, ei gwreiddiau, a chysylltiadau ni'n dwy â Cheredigion a sir Caerffili.
Hyd yn oed bryd hynny roedd ganddi rhinwedd a phresenoldeb anhygoel. Dyna lle'r roedden ni, tu allan i gaffi bach bijou yn y West End, gyda Helen yn mwytho sigarét ddu, yn gwisgo sbectol haul ac yn eistedd mor osgeiddig. A finne, 21 oed, yn ceisio celu fy edmygedd ohoni hi, ei steil, ac yn yfed coffi er nad o'n i'n hoffi ei flas gan mai 'dyna oedd Helen yn ei wneud'.
Fe dreulion ni rai oriau yno cyn iddi orfod mynd i berfformio mewn matinée. Roedd hi mor garedig a gofalgar. Gofyn imi a oeddwn yn iawn i ddal bws yn ôl i'm llety, gan fynnu talu am y coffi. A dyna yn union fel oedd hi trwy'r amser. Dim ond hyfryd.
Dros y blynyddoedd nesaf, roedden ni i gyd yn dyst i'w hesgyniad stratosfferig i enwogrwydd. Roeddem ni i gyd wrth ein boddau drosti, ac unwaith eto mewn parchedig ofn o'i thalent.
Yn 1995, yn ei phrif rôl gyntaf ar ffilm fe serennodd Helen yng nghynhyrchiad Karl Francis, Streetlife, ochr yn ochr â Rhys Ifans a Donna Edwards. Fe enillodd BAFTA Cymru am ei phortread o ddynes ifanc o Gaerffili sydd yn llofruddio ei baban newyddanedig - y cyntaf o nifer o wobrau gydol ei gyrfa.
Rwy'n cofio caru ei phortread o Cherie Blair yn The Queen. Yr ystumiau, y llais, yr osgo, popeth. Jest gwych.
Ac mae'r plant yn gwirioni ar wylio Helen dro ar ôl tro yn y ffilmiau Harry Potter. (Ffaith fach ddiddorol i chi - hi oedd yn fod i chwarae rhan Bellatrix Lestrange yn Harry Potter and the Order of the Phoenix. Ond gan fod Helen yn feichiog gyda'i merch, Manon, aeth y rôl i Helena Bonham Carter yn lle. Ond cafodd Helen chwarae ei rhan yn y gyfres fyd-enwog pan gafodd hi bortreadu Narcissa Malfoy mewn tair ffilm yn ddiweddarach.)
Fe gollon ni Wncwl Rob ac Anti Marj ddiwedd y ganrif ddiwethaf, gan dorri cysylltiad Helen a Chaerdydd dros dro, nes i'w rhieni symud i gartref y teulu wedi ymddeoliad ei thad. Ond fe atgyfnerthwyd y cyswllt a'i hoffter o Gymru wedi iddi gwrdd ag actor arall oedd â gwreiddiau Cymreig - Damian Lewis. Roedd gan ei rieni yntau gartref yng ngorllewin Cymru, a bu'r ddau yn aros yno yn aml, yn ddihangfa o brysurdeb Llundain.
Welon ni ddim mo'n gilydd am rai blynyddoedd wedyn, er ein bod yn clywed o hyd am ei gwahanol gynyrchiadau a'i bywyd yn Llundain drwy fy modryb, a oedd yn parhau i gyfarfod ag Anti Ann.
Tua phum mlynedd yn ôl fe ffoniodd fy modryb i ddweud y byddai Helen yn perfformio yng Ngŵyl y Gelli y flwyddyn honno. Doedd dim angen dweud dwywaith - prynwyd y tocynnau ac roedd y trefniadau yn eu lle i ni gwrdd a chael aduniad unwaith eto. Ond gwaetha'r modd, bu'n rhaid i Helen dynnu yn ôl o'r ymddangosiad hwnnw am fod gwaith yn galw.
Yr hyn sydd gen i ydy atgofion am ddynes fendigedig, talentog, hael, a meddylgar. "
Ychydig wythnosau'n ddiweddarach cafodd fy modryb a finnau wahoddiad caredig i gael cinio yng nghartref teulu Damian ger Llandeilo. Roedd hi'n wirioneddol hyfryd i'w gweld hi eto, ac i gwrdd â'r plant. Roedd yna anffawd fach wedi bod gyda'r archeb archfarchnad y bore hwnnw, oedd yn golygu mai dim ond ychydig o eitemau oedd wedi cyrraedd i fwydo 10 o bobl. Dyna lle'r oedd hi'n sefyll y tu allan i'r drws cefn, sigarét yn ei llaw, a golwg 'be wna i' ar ei hwyneb pan lanion ni yno.
Cydiodd Helen yn beth bynnag a oedd yn y bagiau siopa, ychwanegodd gymaint ag y gallai o'r cypyrddau a throi'r cyfan yn wledd hyfryd i ni i gyd. Gan anwybyddu ein protestiadau, fe fynnodd fod Anti Marwin a minnau, fel gwesteion, i gael cacen bysgod gyfan yr un, nid hanner fel y lleill, gan adael dim un iddi hi.
Cawsom brynhawn hyfryd, ac fel oedden ni'n ei wneud bob tro, addo cadw mewn cysylltiad. Yn anffodus, nid yw hynny i fod. Ond yr hyn sydd gen i ydy atgofion am ddynes fendigedig, talentog, hael, a meddylgar.
Wythnos yn ôl fe aeth fy nhad draw i weld Anti Ann. A hithau ar fin ymadael a'r bywyd hwn dywedodd Helen wrth ei Mam nad oedd hi'n ofni marw a'i bod wedi profi bywyd llawn a chyfoethog a'i gwnaeth yn fodlon ei byd. Poeni am ddyfodol ei phlant oedd yr unig elfen roedd yn peri pryder iddi.
Mae'r teulu cyfan wedi syfrdanu gan yr ymateb i farwolaeth Helen, ac yn eithriadol o falch o weld bod eu merch wedi cyffwrdd â chymaint o bobl drwy ei gwaith a'i gwaith elusennol. Rhedai ei chariad at Gymru a'i theulu yn ddwfn. Mae colled ar ei hôl.
Hefyd o ddiddordeb: