Donna Edwards: Cymeriadau pwysig fy mywyd
- Cyhoeddwyd
Mae Donna Edwards yn wyneb cyfarwydd sy'n actio yn Gymraeg ac yn Saesneg. O gyfresi teledu fel Nuts and Bolts, Stella a Belonging, i Dinas, Llafur Cariad, Tair Chwaer, ac wrth gwrs Pobol y Cwm, ynghyd ag actio ar lwyfannau, mae Donna wedi bod yn gweithio fel actores ers ei rôl deledu gyntaf yn 1978.
Ond oni bai am gefnogaeth un fenyw yn ei chymuned, gallai ei bywyd hi wedi bod yn dra gwahanol, meddai.
Gyda chyfresi'r rhaglen boblogaidd Tair Chwaer nawr ar gael i'w gwylio ar S4C Clic,, dolen allanol cafodd Donna sgwrs gyda BBC Cymru Fyw am ei gyrfa, a'r cymeriadau hynny fu'n drobwynt iddi.
Myfanwy Llewellyn, Off to Philadelphia in the Morning (1978)
Dwi'n dod o Trefechan, pentref bach mewn stad cyngor, i'r gogledd o Ferthyr. Doedd dim lot o bobl yn y pentre' yn siarad Cymraeg ac es i ddim i ysgol Gymraeg chwaith, ond es i glybiau ieuenctid ar ôl ysgol pan o'n i'n 11, gyda Mrs Nanwen Owen.
Pan o'n i tua 13, o'dd hi wedi ysgrifennu at y BBC, 'I've got a little girl and she sings and acts and puts on accents, and she loves acting - I think she has the talent.' O'n i wastad yn showan off.
O'dd John Hefin yn bennaeth drama yn y BBC ar y pryd yn y 1970au, ac yn trefnu i wneud y gyfres Off to Philadelphia in the Morning am y cyfansoddwr Joseph Parry. Sgwennodd e nôl at Mrs Owen a dweud 'As it happens, we're doing a series and we're looking for an urchin-type girl'.
Dyna sut ges i fy rhan gyntaf i gyda'r BBC, sef Myfanwy Llewellyn, pan o'n i'n 14.
O'dd e'n amazing. O'dd Delme Bryn Jones ynddo fe, Rachel Thomas - hi oedd y fam - Dewi Pws, Dafydd Hywel, David Lynn, a Siân Phillips.
O'n i'n gwybod mod i'n mynd i berfformio rhywsut yn fy mywyd i, ond o'n i'n meddwl mod i am fod yn rhywbeth fel vet.
Off to Philadelphia oedd pan nes i feddwl 'falle actor fydda i'.
O'dd John Hefin yn gwneud lot o gyfresi cyfnod Fictoraidd - o'n i yn The Life and Times of David Lloyd George fel Mair Lloyd George, ei ferch hynaf. Fues i farw yn y drydedd pennod! O'dd hwnna'n lot o hwyl. A ffilm am Aneirin Bevan - fi oedd ei chwaer, Arianwen.
O'dd John Hefin yn dweud ar y pryd, fod yna si fod yna sianel am fod i ni y Cymry; 'Dylet ti ddysgu Cymraeg'. O'n i'n ei wneud e yn yr ysgol, ac o'dd e'n dod lan i ddewis opsiynau. Feddyliais i 'I'd like to learn a little bit of Welsh...'
O'n i ddim i wybod y bydde fe'n dod yn rhan enfawr o ngyrfa i - dwi'n falch nawr!
Miriam Ambrose, Dinas (1985)
Meddai cynhyrchydd Dinas, Graham Jones, mae'n debyg, 'There was no-one else for the part'.
Hyd heddiw, dwi ddim yn siŵr oedd e'n golygu doedd yna neb arall oedd e'n teimlo oedd yn iawn i'r darn, neu taw fi oedd yr unig un droiodd lan!
Ond ges i'r rhan o Miriam Ambrose, ac roedd hwnna wedi para' chwe blynedd. O'dd e'n break mawr i mi yng Nghymru.
Dinas oedd y jobyn 'nath helpu fi i symud tŷ, cael arian i brynu unrhywbeth, 'nath roi bywyd i fi, helpu i'n sefydlu i. Beth oedd mor hyfryd oedd o'n i'n cael digon o arian, ac am y tro cynta' yn ein teulu ni, yn sydyn reit, o'n i'n gallu prynu tŷ, yn 22 oed.
Erbyn dechrau ar Dinas o'n i wedi gwneud Lefel O a Lefel A, a blwyddyn gynta' o Gymraeg yn Aberystwyth... o'n i'n medru ymdopi gyda'r Gymraeg yn ramadegol, ac yn gallu ysgrifennu'n dda yn Gymraeg.
Ond pan o'n i'n cael y sgript, o'dd e'n dafodieithol a doedd dim clem 'da fi beth oedd ar y dudalen!
'Nes i ddim dechrau siarad y Gymraeg rili gyda hyder tan ar ôl Dinas.
Es i lan i wneud A Prayer For Wings gan Siôn Mathias yn Theatr Clwyd. O'dd Gareth Potter ynddo, ac o'dd e yn y byd Cymraeg 'na, ac o'dd e'n rili stylish.
O'dd pawb oedd yng nghriw Gareth Potter yn siarad Cymraeg, so o'dd rhaid i fi - dim jest gwrando, ond siarad hefyd - o'dd yn grêt.
Wedyn 'nes i ddechrau gwneud cyfweliadau yn Gymraeg, yn fyw ar y radio, a cyfweliadau teledu. O'dd e'n agor elfen o'r Gymraeg o'dd yn hollol newydd i fi.
Ar ôl Dinas, doedd dim lot o waith yn dod mewn.
O'n i'n gwneud eitha' dipyn o waith gyda Karl Francis, o'dd yn antur: Streetlife gyda Helen McCrory, sy'n Peaky Blinders; y ffilm hanesyddol Rebecca's Daughters, gyda Peter O'Toole, Dafydd Hywel, Huw Ceredig, Ray Gravell a Joely Richardson; Judas and the Gimp gyda Rhys Ifans - joies i hwnna.
Erbyn hynny, o'n i wedi cwrdd â ngŵr i, Ray. Briodon ni yn 1993.
Ar ein tystysgrif priodas ni, mae'n dweud gwraig: actores, gŵr: ffotograffydd - mae e'n swnio mor glamorous! A'n tadau ni - peiriannydd trên a glöwr - real working class stock made good.
Ges i Sophie ym mis Medi yn 1993, ac o'dd Lucy wedi ei geni yn 1996.
Sharon, Tair Chwaer (1997)
Roedd Tair Chwaer yn realistig, fel roedd pobl yn byw, gyda sgrifennu anhygoel gan Siwan Jones.
Endaf Emlyn o'dd yn cyfarwyddo'r gyfres gynta', ac o'dd e'n lyfli gweithio gydag e.
Odden nhw mo'yn i Sharon fod yn fawr - curvy a llawn egni. O'n i'n feichiog iawn ar y pryd gyda Lucy, felly ges i'r rhan, gan obeithio fyddai'r pwysau dal arna i ar ôl cael y babi. Ond 'nath y pwysau ddropio off, a nes i orfod gwisgo fat suit!
Tair Chwaer oedd y peth gorau fi erioed wedi ei wneud, achos o'n i'n gallu canu, ac yn gallu actio. Dwlen i gael cyfres i weld sut mae'r dair chwaer nawr. Tybed ddaethon nhw'n enwog?!
Dyna pryd ges i'n BAFTA cyntaf. O'dd e'n hollol anhygoel. A beth oedd mor hyfryd oedd bod Dad dal yn fyw.
O'dd e bron yn 80 erbyn 'na, a doedd e ddim yn cerdded yn dda, ond o'dd e yn y seremoni.
Erbyn hynny, o'n i wedi cael y plant, o'n ni wedi prynu tŷ, ac o'n i wedi bod yn llwyddiant, felly o'dd e'n lyfli iddo weld hwnna, achos bu farw Mam pan o'n i'n 17 oed, felly welodd hi ddim - dim hyd yn oed fi yn pasio Lefel A. Ond welodd hi fi yn Lloyd George ac yn Off to Philadelphia in the Morning ac Aneurin Bevan.
Ruth Lewis, Belonging (2000)
Ar ôl Tair Chwaer, 'nes i Belonging gyda Charlie Dale ac Eve Myles. O'n i'n gweu hwnna mewn 'da Pobol y Cwm wedyn.
O'n i wedi cael cyfres radio cyn hynny, o'r enw Station Road, gafodd ei newid yn gyfres deledu, sef Belonging.
Dwi'n hollol hapus i weithio yn y ddwy iaith. I ddechrau o'dd e'n anodd i weithio yn Gymraeg, ond nawr mae e yn fy nghroen i.
Britt Monk, Pobol y Cwm (2001)
O'n i wastad mo'yn 'neud Pobol y Cwm - unwaith ges i gynnig, 'nes i neidio arno fe. Ar ôl Dinas, nes i sylweddoli mai operâu sebon yw lle ti rili'n gallu explorio cymeriadau.
Yn 2002 ddechreuon ni; fi, Richard Lynch (Garry), Nick McGaughey (Brandon) a Bethan Jones, y cynhyrchydd. Roedden ni fel tîm, all for one and one for all.
A pan fu farw Brandon, o'dd e'n ofnadwy i Britt, o'dd y genedl yn colli fe, ac o'n i bendant yn colli fe, achos o'dd e'n gweithio mor dda gyda'r tri ohonon ni - y Monks.
Dwi 'di joio gweithio gyda'r bobl sy' dal yna - Richard Lynch, Jeremi Cockram, Jonathan Nefydd...
Dwi ddim yn gwneud llawer o olygfeydd gyda Sera Cracroft - dyw Britt ac Eileen ddim yn gwneud lot gyda'i gilydd - ond ar lefel bersonol, dwi'n caru Sera. O'n i'n gweithio llawer gyda Llinor ap Gwynedd hefyd, o'dd yn anhygoel.
Nes i rili fwynhau actio'r stori am y bipolar, achos dwi'n nabod sawl person sydd â'r cyflwr yna, so o'n i'n gallu siarad gyda ffrindiau.
O'dd e'n neis i'w 'neud, ac ymchwilio mewn iddo. O'n i mo'yn bod yn driw ac yn wir iddo fe; dyna beth 'yn ni gyd mo'yn.
'Swn i'n colli Pobol y Cwm 'nawr, 'swn i missio Britt, fel o'n i'n methu Sharon ar ôl Tair Chwaer yn ofnadwy - wir yn hiraethu am y cymeriad, achos maen nhw'n dod yn rhan ohonot ti.
Dwi'n creu cymeriad mas o bobl dwi'n eu 'nabod - teulu a ffrindiau, a weithiau pobl dwi wedi eu cwrdd yn y siop. Mae'r person yna yn dod yn bersonoliaeth yn ei hunan.
Wedyn pan ti'n dod i stopio chwarae'r rhan 'ma, mae fel bod nhw wedi gadael ti.
Dwi'n teimlo mod i wedi cael bywyd charmed - dwi'n becso weithiau mod i wedi cael gormod o lwc dda. Dwi'n gweithio'n galed, ond dwi'n teimlo ei bod hi wedi bod yn fraint.
O'n i wir ddim yn sylweddoli gymaint o stwff dwi wedi ei wneud! 'Sai'n credu y gallen i 'neud unrhyw beth arall.
Hefyd o ddiddordeb: