Arweinydd y Ceidwadwyr yn amddiffyn eu cynlluniau gwario

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Andrew RT Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn "gwybod y bydd y gwariant yn para ar gyfer y bum mlynedd nesaf"

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi amddiffyn cynlluniau gwariant ei blaid ar gyfer etholiad y Senedd.

Dywedodd Andrew RT Davies wrth raglen Ask the Leader BBC Cymru eu bod yn gwybod y byddan nhw'n gallu fforddio maniffesto'r blaid.

Dydy'r maniffesto ddim yn manylu faint yn union y byddai'r blaid yn gwario pe bai mewn pŵer wedi'r etholiad ar 6 Mai, er bod cangen Albanaidd y blaid wedi gwneud hynny ar gyfer eu maniffesto nhw.

Dywedodd Mr Davies y byddai'r blaid yn buddsoddi £8bn dros bum mlynedd.

'Modd cyflawni'r maniffesto'

Byddai cynlluniau ar gyfer 3,000 o nyrsys ychwanegol yn costio £270m, meddai, a buddsoddi £420m er mwyn cael 5,000 yn rhagor o staff addysg.

"Rwy'n hollol hyderus bod modd cyflawni'r maniffesto yma gyda'r amlen o arian sydd gan Lywodraeth Cymru dros y bum mlynedd nesaf," meddai.

"Os ddim, ciciwch ni mas.

"Mae gwerth £1.2bn o arian sydd heb ei glustnodi eto ar gyfer y flwyddyn nesaf.

"Rydyn ni'n gwybod bod arian sylweddol ar gael yn yr hydref eleni ac rydyn ni'n gwybod y bydd y gwariant yn para ar gyfer y bum mlynedd nesaf."

Ychwanegodd Mr Davies ei fod yn edifar bod dau brosiect a oedd wedi'u gaddo ym maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig yn 2015 - morlyn llanw Bae Abertawe a thrydaneiddio'r rheilffordd hyd at Abertawe - wedi cael eu cyflawni.

"Ond fe wnaethon ni gyflawni'r trydaneiddio hyd at Gaerdydd," meddai wrth y rhaglen.

"Fe fydden i wedi hoffi ei gyflawni hyd at Abertawe ond oherwydd y problemau economaidd doedd ddim modd i ni wneud hynny.

"Roeddwn i yn gefnogwr brwd o'r morlyn llanw - yn anffodus doedd y ffigyrau economaidd ddim yn gwneud synnwyr gyda hwnnw.

"Rwy'n hyderus y gallwn ni atgyfodi'r morlyn gyda'r cynnig cywir."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Andrew RT Davies ei fod yn "hyderus y gallwn ni atgyfodi" y cynllun ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe

Fe wnaeth llywodraeth Geidwadol y DU gefnu ar y cynllun ar gyfer y morlyn yn 2018 ar sail y gost.

"Rwy'n edifar nad oedd modd i ni gyflawni'r ddau gynllun yna," meddai Mr Davies.

"Ond mae 'na dal gyfle i ni eu hatgyfodi."