Ceidwadwyr eisiau torri treth incwm 1% erbyn 2026
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn addo torri treth incwm yng Nghymru os ydyn nhw'n llwyddo creu 65,000 o swyddi newydd yma erbyn 2025.
Mae'r blaid yn dweud y byddai'n anelu at dorri 1% oddi ar dreth incwm sylfaenol cyn yr etholiad nesaf mewn pum mlynedd, pe baen nhw mewn grym ar ôl 6 Mai.
Daw'r addewid wrth i'r Ceidwadwyr lansio eu maniffesto etholiadol yn Wrecsam.
Ymhlith yr addewidion eraill mae cynllun i adeiladu ffordd liniaru'r M4 a thorri treth busnes i gwmnïau bach.
'Ymdrech dyngedfennol'
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, mae angen "ymdrech genedlaethol dyngedfennol" ar yr economi.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn amddiffyn 11 o seddi ym Mae Caerdydd wrth i bleidleiswyr wynebu'r blychau pleidleisio ar 6 Mai.
Daeth y blaid yn drydydd yn yr etholiad diwethaf i Fae Caerdydd yn 2016 ond yn etholiad cyffredinol San Steffan ym mis Rhagfyr 2019, fe enillodd y blaid chwe sedd etholaethol yng Nghymru oddi ar Lafur, gan sicrhau'r canlyniad gorau i'r blaid ers cyfnod Margaret Thatcher.
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
Mae maniffesto'r blaid eleni yn addo creu 65,000 o swyddi newydd yng Nghymru dros y bum mlynedd nesaf, fel rhan o'u "hymgyrch genedlaethol".
Os ydyn nhw'n cyrraedd y targed hwnnw, mae'r blaid yn dweud y byddan nhw wedyn yn torri treth incwm ar gyflogau rhwng £12,571 a £50,270 y flwyddyn.
Dydy'r maniffesto ei hun ddim yn manylu ar faint o doriad fyddai yn y dreth incwm, ond mewn datganiad i'r wasg i gyd-fynd â'r lansiad mae'r blaid yn dweud y bydden nhw'n torri ceiniog ym mhob £1 oddi ar yr haen isaf o dreth incwm.
Yn ôl llefarydd ar ran y blaid, byddai'r toriad mewn treth yn cael ei ariannu trwy "gael mwy o bobl i dalu arian i mewn i'r pot, fel y gallwn ni leihau faint o arian sy'n rhaid i bawb dalu mewn, a phobl wedyn yn gallu gwario mwy o arian yn eu heconomi leol, gan greu mwy o swyddi".
Mae'r maniffesto yn awgrymu y byddai'r Ceidwadwyr yn cyflwyno'r toriad treth yn y flwyddyn ariannol olaf cyn etholiad nesaf y Senedd yn 2026, os yw'r targed swyddi yn cael ei gyrraedd.
Ers 2019 mae gweinidogion yng Nghymru wedi bod â'r hawl i amrywio faint o dreth incwm sy'n rhaid ei dalu fan hyn, o'i gymharu ag yn Lloegr, o hyd at 10c ym mhob £1.
Yr arian yma, ynghyd â rhai trethi eraill sy'n cael eu casglu yng Nghymru ac arian sy'n cael ei ail-ddosbarthu gan San Steffan, sy'n ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu rhedeg o Gaerdydd.
Ond hyd yn hyn dyw'r grymoedd yma i newid lefelau treth incwm yng Nghymru heb gael eu defnyddio wedi i Lafur Cymru addo yn yr etholiad diwethaf na fydden nhw'n codi trethi.
Eleni mae Llafur Cymru wedi newid y neges honno, gan ddweud eu bod nhw'n gwarantu peidio â chodi trethi tan fod yr economi wedi adfer ar ôl y pandemig.
Beth yw'r addewidion eraill?
Yn ogystal â'r nod o dorri treth incwm, mae'r Ceidwadwyr hefyd yn dweud y bydden nhw'n buddsoddi £2bn mewn creu isadeiledd modern i Gymru, gan gynnwys adeiladu ffordd liniaru'r M4 - cynllun a gafodd ei wrthod gan Lywodraeth Cymru yn 2019 gydag amcan-gost o £1.6bn ar y pryd.
Byddai'r arian hwnnw hefyd yn cael ei ddefnyddio i uwchraddio'r A55 a'r A40 a chreu 20,000 o bwyntiau gwefru ceir trydan ar draws Cymru.
Ymhlith yr addewidion eraill mae:
Hyrwyddo cyfleon i weithwyr sydd wedi eu taro gan y pandemig trwy raglen ail-hyfforddi er mwyn cael mynediad i sectorau allweddol;
Cefnogi meicro-fusnesau trwy dalu cyfraniad Yswiriant Gwladol dau weithiwr newydd am ddwy flynedd;
Sefydlu asiantaeth datblygu busnes newydd wedi ei leoli yng ngogledd Cymru.
Yn ôl Mr Davies, fe fydd ei blaid yn rhoi "cyflawni wrth galon ein maniffesto a phan fyddwn ni'n cyrraedd ein hymrwymiadau, fe fyddwn ni'n sicrhau bod gweithwyr diflino Cymru yn manteisio trwy doriad yn eu treth incwm ar ddiwedd y tymor Seneddol nesaf".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2021