Cyhuddo dyn o geisio llofruddio ym Merthyr Tudful
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 26 oed o Ferthyr Tydfil wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio yn dilyn achos o drywanu ym Merthyr Tudful.
Cafodd dyn 32 oed ei drywanu yn dilyn digwyddiad ar gaeau pêl-droed yn ardal Gelli Deg ddydd Iau, 22 Ebrill.
Mae bellach wedi cael gadael Ysbyty Tywysog Charles, yn ôl Heddlu De Cymru.
Mae tri dyn lleol, sy'n 47, 37 a 27 oed, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o roi cymorth i droseddwr ac wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol wrth i ymholiadau barhau.
Dywed yr heddlu nad ydyn nhw'n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r achos.