Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad ar ffordd osgoi'r Drenewydd

  • Cyhoeddwyd
Ffordd osgoi'r Drenewydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffordd osgoi'r Drenewydd wedi bod ar agor ers 2019

Mae dyn 36 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad ym Mhowys ddydd Sul.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod y gwrthdrawiad wedi digwydd ar yr A489, ffordd osgoi'r Drenewydd, am tua 18:30.

Ychwanegodd y llu bod teulu'r dyn wedi cael gwybod, a bod gyrrwr mewn cerbyd arall wedi cael ei gymryd i'r ysbyty gyda mân anafiadau.

Roedd y ddwy lôn ar yr A489 ar gau dros nos, gyda gyrwyr yn cael eu dargyfeirio.

Pynciau cysylltiedig