Johnson yn amddiffyn ymchwiliad i ymddygiad AS Cymreig

  • Cyhoeddwyd
bj wrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Boris Johnson (dde) ar ymweliad etholiadol â Wrecsam ddydd Llun

Mae Prif Weinidog y DU wedi amddiffyn penderfyniad ei blaid i beidio â chymryd camau pellach yn erbyn Aelod Seneddol Cymreig.

Tra'n ymgyrchu yn Wrecsam ddydd Llun, dywedodd Boris Johnson fod prosesau disgyblu'r blaid yn achos Rob Roberts yn "gywir".

Roedd yr AS Ceidwadol dros Delyn wedi anfon negeseuon testun amhriodol at gydweithiwr benywaidd.

Dywedodd y Ceidwadwyr fod Mr Roberts wedi derbyn "cerydd cryf" am ei ymddygiad "annerbyniol".

Daeth yr ymchwiliad i ben ac ni chafodd ei ddiswyddo.

Dywedodd Boris Johnson: "Rydyn ni'n blaid sy'n credu mewn sathru ar ymddygiad annerbyniol o bob math.

"Rwy'n falch iawn o fod yn arwain Plaid Geidwadol sydd heddiw yn fwy amrywiol yn ei chynrychiolaeth nag erioed yn ei hanes."

Nid yw Mr Roberts wedi gwneud sylw ers i'r blaid ddod â'r ymchwiliad i ben.

Ffynhonnell y llun, Tŷ'r Cyffredin
Disgrifiad o’r llun,

Etholwyd Rob Roberts yn AS Ceidwadol Delyn yng ngogledd Cymru ym mis Rhagfyr 2019

Yn y cyfamser, fe wadodd Mr Johnson ei fod erioed wedi gwneud y sylw y byddai'n well ganddo weld cyrff yn pentyrru na mynd i gyfnod clo arall.

Dywedodd hefyd ei fod yn "sicr heb" ymyrryd ag ymchwiliad i straeon yn cael eu rhyddhau o'r llywodraeth.

Ddydd Llun, fe gyhoeddodd y Daily Mail stori fod Mr Johnson wedi dweud y byddai'n well ganddo weld "cyrff yn pentyrru'n uchel yn eu miloedd" na gorfodi'r wlad i fynd i drydydd cyfnod clo.

Daw hyn wrth i'r Prif Weinidog hefyd wynebu cwestiynau ynghylch sut y talwyd am adnewyddiadau drud yn ei fflat yn Downing Street.

Mae'r Blaid Lafur wedi galw am ymchwiliad llawn i'r mater.

Dywedodd Mr Johnson ddydd Llun fod pleidleiswyr yn poeni mwy am gyflwyno'r brechlyn na'r ffrae ynglŷn â sut y talwyd am adnewyddu ei fflat.

Dywedodd y Prif Weinidog y byddai "unrhyw ddatganiad i'w wneud" yn cael ei gyhoeddi "maes o law" a bod pobl eisiau i'r llywodraeth ganolbwyntio ar fwrw ymlaen â chyflwyno'r brechlyn.

Wrth ymateb i'r ymweliad, dywedodd Llafur Cymru y dylai Mr Johnson fod "wedi cymryd y cyfle i ymddiheuro am ei ASau Ceidwadol yng ngogledd Cymru sydd wedi tanseilio'r ymdrech i gadw Cymru'n ddiogel sawl tro".

Ychwanegodd y llefarydd bod y Ceidwadwyr wedi ymddwyn mewn ffordd "anghyfrifol" yn ystod y pandemig, a bellach yn "canolbwyntio ar sïon o Downing Street a sylwadau ffiaidd" sy'n cael sylw yn y wasg.

Pynciau cysylltiedig