Angen gwella holl groesfannau trenau gwastad Cymru
- Cyhoeddwyd
Cafodd gyrrwr anafiadau difrifol pan gafodd ei fan ei tharo gan drên ar groesfan reilffordd 12 mlynedd ar ôl i welliannau diogelwch gael eu hargymell yno.
Cafodd yr unigolyn anafiadau a newidiodd ei fywyd wrth groesfan breifat Smiths Lower Cefn ger y Trallwng ym Mhowys fis Mehefin diwethaf.
Daeth adroddiad gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) i'r casgliad nad oedd y gyrrwr yn gwybod bod angen iddynt ffonio'r arwyddwr cyn croesi.
Dywedodd adran drafnidiaeth Llywodraeth Prydain ei bod yn cytuno bod angen diweddaru arwyddion.
Nôl yn 2009 roedd RAIB wedi rhybuddio mewn adroddiad i ddamwain arall fod angen gwneud arwyddion ar groesfannau gwastad yn gliriach.
Mae'r corff wedi gwneud galwadau tebyg mewn sawl adroddiad i wrthdrawiadau ar groesffyrdd gwastad yn y blynyddoedd wedi hynny.
Mae croesfannau sy'n cael eu gweithredu gan ddefnyddwyr i'w cael ar safleoedd lle mae rheilffyrdd yn croesi hawl tramwy, fel ffordd ar dir preifat, llwybr troed neu lwybr ceffylau.
Yn aml mae angen i gatiau neu rwystrau gael eu symud gyda llaw, gyda rhai croesfannau yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddwyr ffonio arwyddwr i sicrhau ei bod yn ddiogel croesi.
Fodd bynnag, fe ddarganfyddodd RAIB yn ystod eu ymchwiliad i'r digwyddiad ger y Trallwng ei bod hi'n bosib y gallai'r gyrrwr fod wedi anwybyddu'r angen i alw'r arwyddwr gan nad oedd y wybodaeth "yn bresennol" mewn rhestr o gyfarwyddiadau ar yr arwydd wrth y groesfan.
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad fod gyrrwr y fan allan o'r cerbyd ar y bryd, o bosib yn symud giât a oedd wedi dechrau siglo wrth iddyn nhw yrru dros y groesfan reilffordd, ac yn sefyll ar ochr gyrrwr y cerbyd pan gafodd ei daro gan y trên.
Cafodd gyrrwr y fan ei daflu i gae cyfagos, gan ddioddef anafiadau difrifol.
Cyfeiriodd yr RAIB hefyd at ymchwiliad yn 2009 i risgiau croesfannau gwastad sydd angen cael eu gweithredu gan ddefnyddwyr.
'Bydd damweiniau'n parhau'
Ar y pryd fe argymhellodd yr adroddiad fod yn rhaid i'r Adran Drafnidiaeth adolygu rheolau ar gyfer croesfannau gwastad a'u newid "yn ôl yr angen", gan ystyried "yr angen i gyfleu gwybodaeth a chyfarwyddiadau yn glir ac yn ddiamwys".
Ar ôl damwain Powys, dywedodd yr RAIB ei fod wedi cysylltu â Network Rail, y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR), ac adran drafnidiaeth Llywodraeth Prydain "i'w rhybuddio am y digwyddiad hwn a'r angen i weithredu i weithredu argymhellion a wnaed yn flaenorol".
Dywedodd: "Mae RAIB yn pryderu y bydd damweiniau a digwyddiadau yn parhau i ddigwydd oni bai bod camau sylweddol yn cael eu cymryd."
Dywedodd llefarydd ar ran adran drafnidiaeth San Steffan eu bod nhw yn meddwl am y gyrrwr.
Dywedodd y llefarydd: "Rydym yn croesawu adroddiad RAIB ar Smiths Lower Cefn, ac yn cytuno gant y cant bod angen diweddaru arwyddion wrth groesfannau preifat.
"Ar hyn o bryd mae'r adran yn y broses o baratoi ymgynghoriad ar ddiweddaru'r rhain, gyda'r bwriad o'i gyhoeddi yn ddiweddarach eleni."
Dywedodd Network Rail mai diogelwch oedd ei "flaenoriaeth".
Dywedodd Christine Booth, ei chynghorydd risg croesfannau gwastad: "Rydym yn gosod goleuadau coch a gwyrdd i rai o'r croesfannau preifat a'r croesfannau llwybr cyhoeddus cyhoeddus risg uchaf ledled Cymru i'w gwneud yn fwy diogel.
"Mae hyn yn cynnwys wrth groesfan Smith yn Powys ac mae'n dilyn gwelliannau diogelwch a wnaed eisoes ar groesfannau fel Tŷ Gwyn a Pen Uchaf ar arfordir gogledd Cymru."
Dywedodd yr ORR, sy'n gyfrifol am reoleiddio diogelwch rheilffyrdd Prydain: "Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Network Rail a'r Adran Drafnidiaeth i sicrhau bod argymhellion yn cael eu hystyried yn briodol a'u gweithredu.
"Rydym hefyd yn gweithio gyda'r diwydiant i gyflwyno canllawiau newydd ar gyfer rheoli diogelwch croesfannau gwastad.
"Bydd hyn yn helpu i wella asesiadau risg ar groesfannau gwastad a bydd yn berthnasol i bob croesfan gan gynnwys croesfannau sydd angen cael eu gweithio gan ddefnyddwyr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd22 Awst 2018