Cyflwynydd radio wedi 'cam-drin bachgen naïf' yn yr 80au

  • Cyhoeddwyd
Kevin Johns
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y barnwr ddisgrifio Kevin Johns fel person "adnabyddus yn ardal Abertawe"

Mae cyflwynydd radio o Abertawe wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o gam-drin rhywiol yn erbyn bachgen "naïf" 40 mlynedd yn ôl.

Mae Kevin Johns o Gorseinon yn gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ar y bachgen, oedd yn 14 oed ar y pryd.

Clywodd Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun bod y ddwy drosedd honedig wedi digwydd pan oedd Mr Johns tua 20 oed.

Dangoswyd fideo i'r llys o'r dioddefwr, sydd bellach yn ddyn canol oed, yn cael ei gyfweld gan yr heddlu, ble dywedodd bod Mr Johns wedi ei warchod am gyfnod tra roedd ei fam yn yr ysbyty.

Dywedodd bod y troseddau honedig wedi digwydd rhywbryd rhwng Mehefin 1980 a Mehefin 1981.

'Ofn ac euogrwydd mawr'

Ar un noson, mae'r dioddefwr yn honni bod Mr Johns wedi "troi'r sgwrs i fod am ryw", a'i fod yntau "mewn sioc".

Dywedodd Elen Owen ar ran yr erlyniad bod Mr Johns yna wedi dinoethi a bod yn "fwy grymus" am yr hyn roedd eisiau i ddigwydd.

"Fe wnaeth y diffynnydd ddweud wrtho am beidio â dweud wrth unrhyw un," meddai.

Dywedodd y dioddefwr ei fod wedi teimlo "ofn ac euogrwydd mawr" yn dilyn y digwyddiad, ac mai ei wraig a'i chwaer oedd yr unig bobl oedd yn gwybod am yr hyn ddigwyddodd nes iddo adrodd y peth i'r heddlu yn ddiweddar.

Ychwanegodd yr erlyniad fod hynny ond wedi digwydd wedi i chwaer y dioddefwr ddweud wrth heddwas am y digwyddiad.

Mae Mr Johns yn gwadu'r cyhuddiadau ac mae disgwyl i'r achos barhau am weddill yr wythnos.

Pynciau cysylltiedig