Maniffesto Llafur yn 'fwy cymedrol' na'r Torïaid a Phlaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Etholiad Senedd Cymru yn digwydd ar 6 Mai

Mae maniffesto etholiad Llafur yn cynnig addewidion mwy cymedrol na'u prif wrthwynebwyr, meddai arbenigwyr.

Maen nhw'n dweud bod cynlluniau gwariant Llafur yn seiliedig ar ragfynegiad "gofalus" ynglŷn â maint y gyllideb, o'i gymharu â'r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.

Ond mae yna ddiffyg manylder ym mhob un o dri chynnig y pleidiau mwyaf, yn ôl tîm ymchwil Dadansoddiad Cyllidol Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Nid yw'r pleidiau wedi dweud digon am y "dewisiadau anodd" sy'n eu hwynebu os ydyn nhw mewn llywodraeth ar ôl 6 Mai.

Cymharodd y dadansoddiad gost tebygol maniffestos â rhagolygon ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru, y mae eu maint wedi'i osod yn bennaf yn San Steffan.

Canfu fod Llafur wedi cymryd "agwedd wahanol iawn" i'r Torïaid a Phlaid Cymru, gyda chynigion gwariant newydd "eithaf cymedrol" a dim ymrwymiadau penodol ar gyllid o ddydd i ddydd ar gyfer ysgolion a'r GIG.

"Rwy'n credu eu bod yn bod yn ofalus o ran y rhagolygon ar gyfer cyllideb Cymru," meddai Guto Ifan o'r tîm dadansoddi.

Mae addewidion y Ceidwadwyr i dorri trethi, ar ben addewidion gwariant newydd, yn mynd tu hwnt i'r cynnydd sy'n cael ei ragweld ym maint cyllideb Cymru, meddai Mr Ifan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Adam Price (Plaid Cymru), Mark Drakeford (Llafur) ac Andrew RT Davies (Ceidwadwyr) ydy arweinwyr y prif bleidiau

Byddai angen mwy o arian parod gan Lywodraeth y DU ar lywodraeth Dorïaidd Gymru - rhywbeth y mae'r dadansoddiad yn ei ddweud sy'n "debygol" - neu y byddai'n rhaid iddi dorri mewn meysydd eraill i dalu am ei maniffesto.

Mae cynlluniau Plaid Cymru yn tybio y bydd y gyllideb yn tyfu'n gyflymach, a dywedodd Mr Ifan fod hynny yn "optimistaidd ond nid yn afresymol".

Yn wahanol i'r pleidiau eraill, roedd Plaid Cymru yn cynnig ymrwymiadau mawr y tu allan i'r GIG ac ysgolion "mewn cyllideb gymharol dynn".

Beth ydy'r ymateb?

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru y byddai'n bosib cyflwyno'r addewidion yn y maniffesto "o fewn y gyllideb a'r pwerau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru".

Ychwanegodd nad yw'r cynlluniau'n ddibynnol ar gynyddu trethi na chael caniatâd Llywodraeth y DU.

"Mae'r llywodraeth Lafur yma wedi buddsoddi mwy bob pen yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol na Lloegr, a bydd y llywodraeth Lafur nesaf yn parhau i wneud hynny."

Dywedodd Eurfyl ap Gwilym o Blaid Cymru bod y dadansoddiad yn "cadarnhau" adroddiadau blaenorol gan economegwyr bod "maniffesto Plaid Cymru yn gyraeddadwy ac yn realistig".

Ychwanegodd bod y dadansoddiad newydd yn rhoi "arwydd clir i bleidleiswyr mai ond llywodraeth Plaid Cymru all sicrhau gallu economaidd i galon ein llywodraeth a syniadau newydd i wella bywydau."

Mae maniffesto'r Ceidwadwyr Cymreig "wedi ei gostio'n llwyr" meddai llefarydd, gan "warantu'r hwb i economi Cymru sydd ei angen i wella o'r pandemig a 22 mlynedd o'r Blaid Lafur, gan sicrhau ein haddewid cenedlaethol i greu 65,000 o swyddi a dangos i'r byd bod Cymru ar agor i fusnes".

Ychwanegodd bod "ein hymrwymiadau wedi eu disgrifio fel rhai sydd o fewn cyd-destun gwariant realistig gan berchennog busnes amlwg o Gaerdydd a chyn-ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru".