Toyoda Gosei am gau ffatri cydrannau ceir yng Ngorseinon
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni sy'n cynhyrchu cydrannau ar gyfer y diwydiant ceir wedi cyhoeddi eu bwriad i gau eu safle yng Ngorseinon, ger Abertawe.
Dywed Toyoda Gosei o Japan eu bod wedi dechrau'r broses o ymgynghori gyda'r gweithwyr ynglŷn â chau eu safleoedd yn y Deyrnas Unedig.
Mae 207 o weithwyr llawn amser yng Ngorseinon, a 68 o weithwyr rhan amser.
Fe agorodd y safle yn 2011 gan gyflenwi cwmnïau fel Toyota, Nissan, Renault, Honda a Jaguar Land Rover.
Mae'r gweithlu eisoes wedi ei gwtogi'n sylweddol, ers cyflogi tua 800 o bobl yn 2015.
Yn Rhagfyr 2020 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cwmni yn derbyn gymhorthdal o £116,000 er mwyn diogleu tua 120 o swyddi rhag effeithiau economaidd coronafierws.
Dywedodd y cwmni ei fod hefyd yn bwriadu cau safle yn Rotherham yn Lloegr.
Yn ôl llefarydd mae'r newidiadau yn angenrheidiol wrth ymateb i ostyngiad sylweddol ymhlith cwsmeriaid y DU am eu cynnyrch.
Doeddynt chwaith ddim yn rhagweld y byddai cynnydd yn y galw yn y dyfodol.
Ychwanegodd fod y newidiadau yn rhan o gynllun ad-drefnu'r cwmni o fewn eu busnesau yn Ewrop, gan gynnwys symud peth o'r gwaith cynhyrchu i'r prif safle yn y Weriniaeth Siec.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod "mewn cysylltiad â Toyoda Gosei ynghylch eu cynlluniau i ymgynghori ar gau safle Abertawe" ac y byddai hynny'n parhau yn ystod yr ymgynghoriad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2012