Cau ffatri yn Llanelli gyda cholled 100 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Safle ffatri Dafen AIM Altitude
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r safle yn Nafen yn cyflogi bron 100 o bobl

Daeth cadarnhad y bydd ffatri sy'n cynhyrchu rhannau awyrennau ger Llanelli yn cau fis nesaf - gyda cholled o bron i 100 o swyddi.

Mae cwmni AIM Altitude - sydd â safle yn Nafen, ger Llanelli - yn cynhyrchu cabanau, storfeydd, a galïau ar gyfer rhai o gwmnïau awyrennau mwyaf y byd.

Dywedodd y cwmni, sydd â phencadlys yn Bournemouth, bod "heriau parhaol" y pandemig coronafeirws yn parhau i effeithio'r diwydiant awyrennau.

Ychwanegodd y cwmni ei fod wedi gorfod "cyfuno safleoedd gweithgynhyrchu" ac o ganlyniad y byddai safle Dafen yn cau ym mis Mai.

Mewn datganiad blaenorol, dywedodd y cwmni ei fod wedi gweithredu ar ddechrau'r cyfnod ymgynghori gyda gweithwyr, trwy ddefnyddio cynllun ffyrlo y llywodraeth, lleihau costau cyffredinol, a derbyn cefnogaeth gan gyfranddalwyr.

Ond ychwanegodd bod y cwmni "dal dros ei gapasiti" y flwyddyn hon ac "yn anffodus, mae yna angen i leihau'r gweithlu i adlewyrchu'r cwymp mewn galw ac i fynd i'r afael â'r costau".

Fe geisiodd gwleidyddion lleol gael y cwmni i wneud tro pedol gan ddisgrifio'r swyddi fel rhai o "safon dda".

Mae AIM Altitude yn un o brif gyflenwyr cabanau mewnol i gwmni awyrennau mwyaf y byd yn cynnwys Boeing, Airbus a gweithgynhyrchwyr awyrennau rhanbarthol.