'Diwrnod gwaethaf fy mywyd,' medd Kevin Johns
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwynydd radio sydd wedi ei gyhuddo o gam-drin bachgen "naïf" yn rhywiol 40 mlynedd yn ôl, wedi disgrifio ei arést fel "diwrnod gwaethaf fy mywyd".
Mae Kevin Johns, 60, o Gorseinon, Abertawe yn gwadu ymosod yn anweddus ar y bachgen, oedd yn 14 ar y pryd.
Gwadodd honiad yr erlyniad iddo ymddwyn mewn modd "hunanol a thrahaus" gan fanteisio ar gyfle rhywiol fel dyn 20 oed.
Roedd Mr Johns yn rhoi tystiolaeth yn Llys y Goron, Caernarfon.
Cyfeiriodd at ei broffil amlwg yn Abertawe ar y pryd.
Anrhydedd MBE
Dywedodd ei fod wedi cyflwyno sioe frecwast ar orsaf Sain Abertawe am 25 mlynedd.
Bu hefyd, meddai, yn cynnal neu gyflwyno nifer o achlysuron ar gyfer elusennau yn y ddinas ac yng nghlwb pêl-droed Abertawe.
Clywodd y llys iddo dderbyn anrhydedd yr MBE, iddo berfformio mewn pantomeim yn Theatr y Grand yn y ddinas ac iddo weithio i'r BBC.
Pan gafodd ei holi gan Matthew Roberts, ei fargyfreithiwr, a oedd e'n euog i'r cyhuddiadau dywedodd: "Ddim o gwbl, na."
Ychwanegodd ei fod hefyd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau lle roedd y cyhoedd a'r heddlu yn cael eu hanrhydeddu am eu dewrder, a'i fod ef wedi cymryd rhan mewn achlysuron i godi arian ar gyfer Childline a'r NSPCC.
Dywedod Johns, wnaeth astudio yng Ngholeg Beibl Llundain cyn gweithio mewn eglwys yn Lerpwl, fod yr honiadau yn nonsens.
Ond yn ôl yr erlynydd Elen Owen roedd pechodau'r cyn bregethwr wedi "dali i fyny ag ef".
"Na," atebodd.
Wrth gael ei holi am y drosedd lle mae oedolion yn meithrin plant ar gyfer dibenion rhywiol dywedodd: "Trwy gydol fy oes rwyf wedi gweithio ac ymladd i ddiogelu plant o sefyllfaoedd fel hyn.
"Dydi hynny ddim yn fi," meddai.
'Dweud celwyddau'
Aeth y diffynnydd yn emosiynol pan gafodd ei holi gan yr erlynydd gan ofyn: "Pam rydych yn dweud y pethau hyn?"
Wrth ymateb i gwestiwn arall dywedodd: "Rwy'n teimlo yn flin dros unrhyw un sydd wedi bod trwy'r sefyllfa yna.
"Ond doedd hynny ddim byd i wneud â fi."
Gwadodd iddo fod yn cam-drin gan ddweud fod y cwynwr yn dweud celwyddau.
Mae'r diffynnydd yn gwadu dau gyhuddiad o ymosod yn anweddus ac mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd4 Medi 2020
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020